Cronfa Dyfodol Economaidd
Grant Dechrau Busnes
Mae'r Gronfa Cychwyn Busnes bellach wedi cau.
Mae ein Cronfa Dyfodol Economaidd yn cefnogi busnesau newydd ac addasiadau i eiddo busnes sy'n helpu i gefnogi'r economi yn ystod pandemig y coronafeirws a thu hwnt.
Maent yn cynnwys y canlynol:
- cyllid Dechrau Busnes sy'n darparu grantiau o rhwng £250 a £4,000 i fusnesau newydd a busnesau yn ystod eu 3 blynedd gyntaf yn masnachu. I ddechrau bydd £150,000 ar gael yn 2021/2022
- Cronfa Adfer Gwella'r Awyr Agored Covid-19 sy'n darparu grantiau o hyd at £10,000 ar gyfer addasiadau i eiddo busnes sy'n ymateb i gyfyngiadau sy'n deillio o bandemig y coronafeirws ac yn datblygu gwydnwch yn y dyfodol. I ddechrau bydd £350,000 ar gael ar gyfer y Gronfa hon yn 2021/2022
Cronfa Adfer Gwella'r Awyr Agored Covid-19
Ar hyn o bryd, mae Cronfa Adfer Gwella'r Awyr Agored Covid-19 ar gau i ymgeiswyr newydd.
Os bydd rhagor o gyllid ar gael gan Lywodraeth Cymru, byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy ein sianeli cyfathrebu.
Dogfen gyfarwyddyd Cronfa Adfer Gwella'r Awyr Agored Covid-19