Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwneud busnes ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mewn lleoliad cyfleus rhwng dinasoedd Abertawe a Chaerdydd ar goridor yr M4. Mae’n elwa o bron i 30 o barciau busnes a mwy na 4,000 o fusnesau sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW neu gynllun Talu Wrth Ennill.

Mae’r ardal yn gartref i ddatblygiadau tai llwyddiannus, ac archfarchnadoedd a bwytai o gadwyni mawr. Mae’n gartref i nifer o fusnesau byd-eang mawr fel Ford, Sony UK, Rockwool a CGI.

Ymhlith y sectorau penodol sy’n gweithredu yn yr ardal mae deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch, gwyddorau bywyd ac adeiladu. Mae is-sectorau fel meddalwedd a chaledwedd TGCh, moduro, offer meddygol ac ailgylchu’n bodoli yn lleol hefyd.

Mae Coleg Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig cyrsiau mewn adeiladu ac adeiladwaith, peirianneg a busnes. Mae Prifysgol De Cymru a Phrifysgolion Abertawe a Chaerdydd yn hawdd eu cyrraedd, gan roi i gyflogwyr botensial i ganfod cyflogeion a phrentisiaid medrus.

Chwilio A i Y