Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Trefnu digwyddiad

Digwyddiad ar bromenâd Porthcawl

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithredu Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Digwyddiadau (ESAG) ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus, ac mae wedi sefydlu partneriaethau gydag asiantaethau dethol sy'n cynnig cyngor arbenigol. Mae'r ESAG yn ystyried gofynion digwyddiadau cyhoeddus ar raddfa fawr lle mae disgwyl mwy na 500 o bobl yn bresennol. Efallai y bydd digwyddiadau llai hefyd yn gofyn am gynnwys ESAG, gan ddibynnu ar y digwyddiad. Nid yw'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Digwyddiadau (ESAG) yn gorff sy'n gwneud penderfyniadau, ac ni all y grŵp atal digwyddiad rhag digwydd. Ei rôl yw rhoi cyngor ac arweiniad i drefnwyr ynghylch agweddau sy'n gysylltiedig â diogelwch ar gyfer eu digwyddiad arfaethedig.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y cylch gorchwyl ar gyfer ESAG Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae ESAG Pen-y-bont ar Ogwr wedi parhau i fonitro'r sefyllfa'n ymwneud â COVID-19 a chanllawiau Llywodraeth Cymru yn fanwl. Fel grŵp, byddwn yn cefnogi ac yn annog digwyddiadau i gael eu cynnal lle gellir eu cynnal yn ddiogel, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Mae'r canllawiau diweddaraf ar gyfer cyflogwyr, busnesau a sefydliadau ar gael yma https://llyw.cymru/lefel-rhybudd-0-canllawiau-i-gyflogwyr-busnesau-sefydliadau. Mae'n darparu cyngor ar fesurau sy'n debygol o fod yn rhesymol i'w gweithredu i leihau'r risg o’r coronafeirws mewn digwyddiadau.

Anogir trefnwyr digwyddiadau i ymgysylltu'n gynnar â phroses ESAG a chyn mynd i gostau neu hyrwyddo digwyddiadau. Mae hyn er mwyn gallu cynnal trafodaeth ac asesu mesurau diogelwch. Cynhelir cyfarfodydd ESAG ar drydydd dydd Mercher pob mis. Dylid cyflwyno cynlluniau digwyddiadau 10 diwrnod gwaith o leiaf cyn y cyfarfod os ydynt i gael eu cynnwys ar yr agenda i'w trafod.

Canllaw a rhestr wirio cynllunwyr digwyddiadau 

Y canllaw cynllunwyr digwyddiadau yw’r adnodd cyntaf i drefnwyr digwyddiadau edrych arno i gael yr wybodaeth y mae arnynt ei hangen am bob agwedd ar gynllunio digwyddiad. Mae’n cynnwys canllaw 21 tudalen a rhestr wirio y gellir ei lawrlwytho.

Camau ar gyfer Trefnwyr Digwyddiadau

  1. Cyflwyno ffurflen hysbysu am ddigwyddiad wedi'i llenwi i events@bridgend.gov.uk
  2. E-bost gan ESAG yn cydnabod derbyn y ffurflen.
  3. Anfon y ffurflen ymlaen i adran tirddaliadaeth berthnasol CBSP (e.e. Eiddo, Parciau, Amddiffyn yr Arfordir, Canol y Dref, Priffyrdd, Harbwr).
  4. Unwaith y bydd yr adran(au) perthnasol wedi rhoi caniatâd, bydd yr adran honno'n cynghori am yr hyn sydd arnynt ei angen o ran Cynllun Digwyddiad, Asesiad Risg, Rhestr Wirio ar gyfer Digwyddiad.

Os nad yw'r digwyddiad yn cael ei gynnal ar eiddo CBSP, bydd y trefnwyr yn cael eu cyfeirio at y templedi Cynllun Digwyddiad, Asesiad Risg a'r Rhestr Wirio ar gyfer Digwyddiad.

  1. Unwaith y bydd trefnydd y digwyddiad yn darparu'r cynllun llawn ar gyfer y digwyddiad a'r dogfennau ategol, bydd ar gael i holl aelodau'r ESAG i'w ystyried.
  2. Yn dibynnu ar natur y digwyddiad, gall y trefnydd fynychu cyfarfod o’r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Digwyddiadau (ESAG) neu bydd y digwyddiad yn cael ei ystyried gan ESAG o bell. Bydd y trefnydd yn cael ei hysbysu ar e-bost os bydd angen iddo fynychu cyfarfod neu os bydd unrhyw geisiadau am ragor o wybodaeth.

cyswllt

Chwilio A i Y