Trwydded siop anifeiliaid anwes
I werthu anifeiliaid anwes, rhaid bod gennych drwydded awdurdod lleol. Mae hwn yn cwmpasu pob gwerthiant masnachol ar anifeiliaid anwes, gan gynnwys siopau anifeiliaid anwes a busnesau yn gwerthu anifeiliaid dros y we.
Ni all ymgeiswyr fod wedi eu hanghymhwyso rhag cadw siop anifeiliaid anwes.
Bydd ffi a bennir gan yr awdurdod lleol yn daladwy.
Wrth ystyried ceisiadau, dylai awdurdodau lleol ystyried:
- a fydd llety iawn gan yr anifeiliaid, o safbwynt tymheredd, maint, goleuo, awyru a glanweithdra ayb.
- y bydd bwyd a diod ddigonol yn cael ei roi ac yr ymwelir â’r anifeiliaid yn rheolaidd.
- na chaiff unrhyw famaliaid eu gwerthu yn rhy ifanc
- y caiff camau eu cymryd i atal lledaeniad afiechyd ymhlith yr anifeiliaid
- bod cynlluniau argyfwng brys a thân addas yn eu lle
Mae modd rhoi amodau ar drwydded er mwyn sicrhau y cydymffurfir â’r uchod.
Mae er budd y cyhoedd fod awdurdodau yn prosesu ceisiadau cyn eu caniatáu. Os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod perthnasol o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â’r awdurdod. Gallwch wneud hyn ar-lein os gwnaethoch gais drwy’r UK Welcomes Service, neu defnyddiwch y manylion cyswllt isod.
Yn y lle cyntaf, cysylltwch â’ch awdurdod lleol:
Ebost: licensing@bridgend.gov.uk
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Yr Is-adran Trwyddedu
Swyddfeydd Dinesig
Stryd yr Angel
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 4WB
Gall unrhyw berson y gwrthodir trwydded iddynt apelio i lys yr ynadon, neu, yn yr Alban, y Siryf dros leoliad y safle. Gall llys neu Siryf gyfarwyddo ar roi trwydded.
Wrth gwyno, cysylltwch yn y lle cyntaf â’r masnachwr eich hun, yn ddelfrydol drwy lythyr â phrawf dosbarthu. Os nad yw hynny yn gweithio a’ch bod yn y DU, gall Llinell Gymorth Cyngor ar Bopeth helpu. Y tu allan i’r DU, cysylltwch â UK European Consumer Centre.
Nid oes unrhyw iawndal arall ar gael.