Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont
Grŵp o sefydliadau sector cyhoeddus ac nid er elw yw Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont. Maen nhw'n gweithio gyda’i gilydd i wella Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont. Mae’r sefydliadau canlynol yn rhan o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont:
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
- Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Heddlu De Cymru
- Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
- Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru
- Cymdeithas mudiadau gwirfoddol Sir Penybont
- Cymoedd I’r Arfordir
- Llywodraeth Cymru
- De Cymru Comislynydd Heddlu a Throsedd
- Coleg Penybont
- Awen
- Fforwm Busnes Pen y Bont ar Ogwr
- Adran gwaith a Phensiynau
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Cafodd deddf newydd o’r enw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 ei chyflwyno yn 2016.
Mae’n creu nodau ar gyfer pob awdurdod i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardal.
Daeth yn orfodol ar bob awdurdod lleol hefyd, dan y ddeddf, i greu bwrdd gwasanaethau cyhoeddus (BGC). Cafodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont ei greu ar 1 Ebrill 2016.
Asesiad Lles
Yn rhan o'r Ddeddf, casglodd BGC Pen-y-bont ddata a gwybodaeth a gofynnodd i bobl leol am yr hyn roedden nhw’n ystyried yn gryfderau yn yr ardal, a’r heriau a wyneba, nawr ac yn y dyfodol. Cafodd y wybodaeth ei defnyddio i ddatblygu Asesiad Lles Pen-y-bont a chafodd hwnnw ei gyhoeddi yn Ebrill 2017.
Mae’r asesiad lles yn ein helpu i ddeall anghenion ein preswylwyr a’n cymunedau a bydd yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd. Rydym wedi defnyddio’r asesiad lles, ynghyd â gwybodaeth allweddol arall, i ddatblygu cynllun llesiant Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont.
Cynllun llesiant Pen-y-bont
Mae’r cynllun llesiant yn dweud wrthym sut gallwn wella llesiant ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont, a’r hyn mae angen ei wneud i gyflawni’r gwelliant hwn. Mae hefyd yn dangos sut bydd y cynllun yn ein helpu i gyflawni’r saith amcan llesiant a nodir yn y Ddeddf.
Cyfarfodydd a chofnodion
- Cyfarfodydd a chofnodion Mai 2016 - PDF 247Kb
- Cyfarfodydd a chofnodion Gorffennaf 2016 - PDF 230Kb
- Cyfarfodydd a chofnodion Medi 2016 - PDF 228Kb
- Cyfarfodydd a chofnodion Tachwedd 2016 - PDF 242Kb
- Cyfarfodydd a chofnodion Ionawr 2017 - PDF 244Kb
- Cyfarfodydd a chofnodion Mawrth 2017 - PDF 229Kb
- Cyfarfodydd a chofnodion Mai 2017 - PDF 306Kb