Panel y Dinasyddion
Mae Panel Dinasyddion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gwrando ar sylwadau preswylwyr ac yn ymateb iddynt. Os ydych yn ymaelodi, gallwch ein helpu i ddeall barn preswylwyr am yr hyn rydym yn ei wneud, yn ogystal â sut gallwn ni adolygu a gwella’n gwasanaethau.
Mae aelodau Panel y Dinasyddion yn derbyn hyd at dri arolwg y flwyddyn ar bynciau amrywiol megis glanweithdra strydoedd, gwasanaeth cwsmeriaid a chyllideb y cyngor. Hefyd, mae aelodau’n derbyn diweddariadau trwy ein cylchlythyr ‘Fe ddywedoch chi, Fe wnaethom ni’. Caiff y cylchlythyr ei ryddhau gyda phob yn ail arolwg ac mae’n tynnu sylw at sut mae ymatebion wedi newid ein ffordd o weithredu.
Ymaelodi â Phanel y Dinasyddion
I fod yn aelod o’r panel mae’n rhaid i chi fod yn byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac yn 16+ oed.
Mae sawl ffordd i ymaelodi:
- Cliciwch yma i ymaelodi ar-lein.
- Ffoniwch 01656 643664.
- Cliciwch yma i ymaelodi trwy e-bost.
- Lawr lwytho Ffurflen Gais i'r Banel Dinasyddion