Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol am y Maer a’r Dirprwy Faer, cysylltwch â Swyddfa’r Maer:
Cysylltu
Y Maer
Maer 2017 i 2018
Y Cynghorydd Pam Davies.
Protocol ar gyfer cwrdd â’r Maer
Maer: Anrhydeddus Faer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (y Cynghorydd Enw Cyntaf Cyfenw)
Maeres neu gymar: Cymar (Teitl Enw Cyntaf Cyfenw)
Dirprwy Faer: Dirprwy Faer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (y Cynghorydd Enw Cyntaf Cyfenw)
Dirprwy Faeres neu gymar: Cymar (Teitl Enw Cyntaf Cyfenw)
Y Maer sy’n cael blaenoriaeth ledled Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Dim ond Arglwydd Raglaw neu aelod o’r teulu brenhinol sydd uwch nag ef. O ran eistedd, dylai safle'r Maer fod yn union i'r dde o'r person sy'n llywyddu, ac eithrio pan fo'r Maer yn y gadair honno. Pan fydd y Dirprwy Faer yn gweithredu ar ran y Maer, dylai gael yr un flaenoriaeth.
Dylai person enwebedig gwrdd â’r Maer wrth y fynedfa, a’i gyflwyno i’r sawl sy’n llywyddu. Bydd gyrrwr personol gyda’r Maer, a fydd ar ddyletswydd ac wrth law bob amser.
Os oes gofyn i’r Maer siarad, ef fydd yn siarad yn gyntaf neu'n gysylltiedig â'r llwncdestun cyntaf fel arfer. Dylech ofyn a yw’r Maer yn fodlon siarad ymhell o flaen llaw. Rhowch wybodaeth/bwyntiau am yr anerchiad ar y ffurflen manylion digwyddiad, ac os yw'n bosibl, ceisiwch gynnwys gwybodaeth am gefndir y digwyddiad. Dylid anfon yr holl wybodaeth am y digwyddiad i swyddfa’r Maer ei chymeradwyo gan nodi manylion unrhyw weithgareddau sy'n cynnwys y Maer.
Mae gan y Maer ddyletswydd ddinesig i gynrychioli a hyrwyddo Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r Maer bob amser yn awyddus i gefnogi digwyddiadau ac achosion lleol sy’n codi proffil Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a’i phobl, yn lleol a thu hwnt.
I wahodd y Maer i ddigwyddiad cysylltwch â swyddfa'r Maer cyn gynted â phosibl. Mae'r Maer yn brysur dros ben ac nid yw bob amser yn gallu bod yn bresennol mewn digwyddiadau ar fyr rybudd. Er hynny, byddwn bob amser yn ateb eich gwahoddiad i nodi a yw wedi'i dderbyn ai peidio.
Yn gyntaf, dylech holi a yw’r Maer ar gael drwy ffonio 01656 643132 neu 643130.
Dylech wahodd y Maer yn ysgrifenedig. Dechreuwch eich llythyr gydag ‘Annwyl Faer', a’i orffen gyda ‘Yn gywir’. Dylai’r gwahoddiad gynnwys y wybodaeth ganlynol am y digwyddiad:
- dyddiad
- lleoliad
- gofynion arbennig, a oes angen rhoi anerchiad, cyflwyniadau ac ati.
- amser
- yn ogystal â natur y digwyddiad
Ar ôl i’r Maer dderbyn y gwahoddiad, caiff ‘ffurflen manylion digwyddiad' ei hanfon atoch i'w llenwi.
E-bost: mayor@bridgend.gov.uk
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Parlwr y Maer
Swyddfeydd Dinesig
Stryd yr Angel
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 4WB