Taliadau cynghorwyr
Pennir tâl cynghorwyr gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (PACGA). Ni thelir cynghorwyr am fynychu cyfarfodydd ond maent yn derbyn cyflog i’w ad-dalu am yr amser maent yn ei dreulio a’r costau a godir tra byddant ar fusnes y cyngor.
Mae cynghorwyr hefyd yn gallu hawlio lwfans teithio. Y gyfradd gyfredol yw 45c y filltir sy’n gostwng i 25c y filltir ar ôl 10,000 o filltiroedd yn unol â CThEM.
Dadansoddiad o daliadau cynghorwyr
- Taliadau aelodau 2016/17
- Taliadau aelodau 2015/16
- Taliadau aelodau 2014/15
- Taliadau aelodau 2013/14
- Taliadau aelodau 2012/13
- Taliadau aelodau 2011/12
Mae’n ofynnol o dan Adran 153 Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) i’r cyflog hwn gael ei dalu’n llawn i bob cynghorydd oni bai eu bod wedi ysgrifennu’n annibynnol ac o’u gwirfodd at y swyddog priodol i ofyn am y taliad cyfan neu ran ohono.
Hawl
Cyflog sylfaenol
Y cyflog sylfaenol sy’n daladwy i bob cynghorydd nad yw’n derbyn cyflog uwch neu ddinesig: £13,400
Cyflog uwch
Mae cyflogau uwch yn cynnwys y cyflog sylfaenol. Un cyflog uwch yn unig y gellir ei dalu i gynghorydd.
Arweinydd: £48,100
Dirprwy Arweinydd: £33,600
Aelodau’r Cabinet: £29,100
Cadeiryddion Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu: £22,100
Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu: £22,100
Cadeiryddion y pwyllgorau a restrir isod:£22,100
- Panel Apeliadau
- Pwyllgor Archwilio
- Pwyllgor Trwyddedu
Arweinydd y grŵp gwrthblaid mwyaf: £22,100
Arweinydd grŵp gwrthblaid gydag o leiaf 10% o aelodaeth y cyngor: £17,100
Cyflogau dinesig
Pennaeth Dinesig (Maer): £21,600
Dirprwy Bennaeth Dinesig (Dirprwy Faer): £16,100
Aelodau cyfetholedig statudol
Cadeirydd y Pwyllgor Safonau: £256 Diwrnod llawn, £128 Hanner diwrnod
Cadeiryddion y Pwyllgor Archwilio (os yw’n aelod cyfetholedig neu leyg): £256 Diwrnod llawn, £128 Hanner diwrnod
Aelodau cyfetholedig statudol â hawliau pleidleisio – Pwyllgor Safonau, Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Pwyllgor Archwilio, Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Troseddu ac Anhrefn: £198 Diwrnod llawn, £99 Hanner diwrnod
Aelodau cyfetholedig statudol â hawliau pleidleisio – aelodau cyffredin y Pwyllgor Safonau sydd hefyd yn cadeirio Pwyllgorau Safonau ar gyfer Cynghorau Cymuned: £226 Diwrnod llawn, £113 Hanner diwrnod
Cynghorwyr sy’n gymwys i dderbyn lwfans gofal
Lwfans gofal: Hyd at £403 y mis
Gallwch gael mwy o wybodaeth am daliadau cynghorwyr ar y wefan Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.