Penderfyniad ffatri boteli yn achosi galw am ymdrechion newydd i gael buddsoddiad newydd
Dydd Gwener 26 Chwefror 2021
Mae Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi disgrifio’r newyddion na fydd ffatri boteli, a oedd yn disgwyl creu 600 o swyddi newydd, yn cael ei datblygu’n lleol mwyach fel ‘cam yn ôl chwerwfelys’, ac mae wedi galw ar Lywodraeth y DU i weithio gyda Llywodraeth Cymru i wneud ymdrechion newydd i ddenu buddsoddiad newydd i’r ardal.