Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gweithio i gadw 'coedwig drefol' y fwrdeistref mewn cyflwr da

Bydd rhaglen trin a thocio coed fawr yn dechrau ym Mhorthcawl y mis hwn, cyn symud ymlaen i weddill 'coedwig drefol' Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Yn dilyn asesiad 18 mis o hyd, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gwneud y gwaith hwn er mwyn sicrhau bod coed lleol yn cael eu cadw yn y cyflwr gorau posibl.

Mae dros 439,000 o goed yn y fwrdeistref sirol, yn ardaloedd trefol Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg, Porthcawl, Pencoed a'r Pîl. Ceir 60 o wahanol rywogaethau o goed a pherthi, gyda'r onnen, y ddraenen wen a helygen y geifr ymhlith y rhywogaethau mwyaf cyffredin.

Yn ogystal â defnyddio'r holl dechnegau rheoli angenrheidiol ar goed y gellir eu hachub, bydd angen cwympo unrhyw goed sy'n pydru a phlannu nifer o goed newydd.

Mae'r coed trefol sydd ar hyd ein strydoedd, sy'n fframio ochrau ein ffyrdd ac sy'n tyfu mewn parciau a gerddi yn chwarae rhan bwysig yn ein bywydau bob dydd.

Yn ogystal â gwneud ardaloedd yn lleoedd mwy dymunol i fyw ynddynt oherwydd eu hymddangosiad, mae coed trefol yn darparu cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt, yn cau synau a golygfeydd allan, yn ein cysgodi rhag y gwynt ac yn cael effaith arwyddocaol ar leihau llifogydd a hidlo llygredd aer.

Yn anffodus, mae coed yn datblygu diffygion weithiau neu'n cael eu dinistrio gan blâu a chlefydau, felly mae angen cymryd camau i roi help llaw iddynt lle bynnag y bo'n bosibl. Mae gan y fwrdeistref sirol gyfran lai o goed mawr, felly rydym wedi nodi lleoliadau penodol lle gallwn blannu rhywogaethau priodol a brodorol a fydd yn gallu cael eu rheoli'n ofalus hyd nes iddynt aeddfedu.

Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gymunedau

Yn ôl astudiaeth wyddonol a gomisiynwyd gan y cyngor yn 2015, mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru, canfuwyd bod coed trefol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn arafu oddeutu 124 miliwn o litrau o ddŵr bob blwyddyn yn ystod adegau o law trwm, sy'n gyfwerth â thua £163,000 mewn taliadau carthffosiaeth.

Mae coed hefyd yn glanhau ein haer drwy gael gwared ar oddeutu 61 o dunelli o lygryddion a gludir drwy'r awyr bob 12 mis. Mae hyn yn arbed mwy na £179,000 mewn costau difrod, gan helpu i leihau asthma a chlefyd y galon.

Ond y cyfraniad mwyaf y maen nhw'n ei wneud yw swm y carbon y maen nhw'n ei dynnu o'n hatmosffer, sy'n helpu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Mae coedwig drefol y fwrdeistref sirol yn cael gwared ar oddeutu 2,080 o dunelli o garbon bob blwyddyn, sy'n werth oddeutu £457,000.

Chwilio A i Y