Newid amserlenni bysiau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 08 Ionawr 2020
Mae newidiadau i drafnidiaeth gyhoeddus ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael eu rhoi ar waith yr wythnos hon wrth i First Cymru gyflwyno amserlen bysiau ar ei newydd wedd ddydd Sul 5 Ionawr 2020.
Mae newidiadau i drafnidiaeth gyhoeddus ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael eu rhoi ar waith yr wythnos hon wrth i First Cymru gyflwyno amserlen bysiau ar ei newydd wedd ddydd Sul 5 Ionawr 2020.
Bydd y newidiadau i’r amserlenni, sy’n dechrau ar ddydd Sul 5 Ionawr, yn effeithio ar y gwasanaethau canlynol:
62 Pen-y-bont ar Ogwr i Bencoed:
• Ni fydd y daith 1500 o Orsaf Fysiau Pen-y-bont ar Ogwr yn mynd drwy Channel View oherwydd materion parcio anystyriol.
•
63 Pen-y-bont ar Ogwr i Borthcawl
• Bydd y bws sy’n gadael Gogledd Corneli am 0605 a’r bws sy’n gadael Porthcawl am 0635 yn gadael 5 munud yn gynharach, gan ganiatáu amser teithio ychwanegol lle bo angen.
•
64 Pen-y-bont ar Ogwr i Donysguboriau:
• Ni fydd y daith 1435 o Donysguboriau yn mynd drwy Channel View oherwydd materion parcio anystyriol.
70 a 71 Pen-y-bont ar Ogwr i Bontycymer:
• Bydd newidiadau dros dro yn cael eu gwneud i amseroedd y teithiau rhwng Sgwâr Caerau a Phontycymer o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Ni fydd yr amserlen ar gyfer dydd Sul yn newid.
X1 Abertawe i Ben-y-bont ar Ogwr
• Bydd y gwasanaeth sy’n gadael Abertawe am 0715 yn rhedeg 10 munud yn gynharach, gan adael am 0705 a chaniatáu amser teithio ychwanegol lle bo angen.
X2 Porthcawl i Gaerdydd (drwy Ben-y-bont ar Ogwr):
• Bydd y gwasanaeth sy’n gadael Ysgol Gyfun Porthcawl yn y prynhawn yn cychwyn 30 munud yn gynharach, am 1510, er mwyn cyd-fynd yn well ag amser gorffen newydd yr ysgol. Ni fydd yr amserlenni ar gyfer dydd Sadwrn a dydd Sul yn newid.
Nid Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy’n pennu amseroedd y bysiau a does gan yr awdurdod ddim llais mewn penderfyniadau ynghylch amserlenni. Mae’r newidiadau diweddar i’r amserlenni bysiau ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cael eu rhoi ar waith yn sgil penderfyniad masnachol gan First Cymru. Felly, os hoffai trigolion yr ardal gael rhagor o fanylion am y newidiadau i'r llwybrau, bydd angen iddynt gysylltu â First Cymru neu fynd i wefan First Cymru.
Cynghorydd Richard Young, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Hoffai’r Cynghorydd Young atgoffa preswylwyr bod Trafnidiaeth Cymru wedi cyflwyno dau fis o gyfnod gras i roi cyfle i bobl adnewyddu eu cardiau bws rhatach. Yn ystod y cyfnod hwn bydd gyrwyr yn derbyn hen gardiau a chardiau newydd. Fodd bynnag, trefniant dros dro yw hwn felly bydd angen i’r rheini sy’n gymwys i deithio am ddim gyflwyno cais arall erbyn dydd Gwener 31 Ionawr 2020.
Gall trigolion wneud cais am gerdyn teithio newydd ar-lein ar wefan Trafnidiaeth Cymru, ond os na all preswylwyr lenwi’r ffurflen gais ar-lein am ba bynnag reswm, mae copïau papur ar gael yn y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB.