Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Preswylydd Bracla yn canmol 'Tîm Glanhawyr Stryd o Fri' y cyngor

Mae preswylydd wedi canmol Tîm Glanhawyr Stryd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar ôl iddynt helpu i lanhau bag llawn o glytiau a rwygodd.

Galwodd Barbara Phillips ar y cyngor pan adawyd ei stryd ym Mracla yn frith o glytiau budr ar ôl i fag sbwriel yn cynnwys y clytiau wedi'u defnyddio rwygo.

Yn awyddus i gadw ei stryd yn daclus, cliriodd Barbara sy'n 83 mlwydd oed, nifer o'r bagiau ei hun cyn i dîm awdurdod lleol gyrraedd i orffen y gwaith a chael gwared ar y clytiau gwasgaredig.

Bellach, mae Barbara wedi canmol y tîm o Lanhawyr Stryd a ymatebodd yn gyflym ac mae hefyd wedi diolch i'r Maer John Spanswick am ei gymorth wrth sicrhau y deliwyd â'r broblem cyn gynted â phosibl.

Dywedodd Barbara: "Rwyf wrth fy modd â'n casglwyr sbwriel. Byddent yn dweud wrthych fy mod yn gadael diod iddynt. Rwy'n credu bod eu gwaith yn bwysig felly rwy'n gofalu amdanynt. Maent yn hyfryd iawn.

"Roedd tîm glanhawyr stryd y cyngor yn hudolus, roeddent fel angylion bach yn twtio pan ddaethant. Maent wir yn Dîm o Fri.

"Rydym yn byw ar stryd hyfryd a hoffem ei chadw mor daclus a thwt ag sy'n bosibl.

"Hoffwn ganmol yr holl dimau sy'n dod yma oherwydd maent yn arbennig."

Rwy'n falch iawn y llwyddodd ein Tîm Glanhawyr Stryd i helpu Mrs Phillips yn brydlon ac y cawsant argraff gadarnhaol arni.

Bob dydd, maent yn gweithio'n agos iawn â Kier i sicrhau bod sbwriel ar draws y fwrdeistref sirol yn cael ei gasglu a bod strydoedd yn cael eu cynnal i safon uchel o lanweithdra. Y llynedd yn ystod y pandemig, casglodd a gwaredodd y tîm glanhau dros 1,110 tunnell o wastraff. Mae hyn yn gyfystyr â bron i 32 tunnell o wastraff yn cael ei ofalu amdano gan bob aelod unigol o'r tîm.

Rwy'n siŵr bod y tîm ynghlwm yn falch iawn o gael eu henwi yn 'Dîm o Fri' ac maent yn llawn haeddu canmoliaeth Mrs Phillips.

Cynghorydd Stuart Baldwin, Aelod Cabinet dros Gymunedau
Y Maer John Spanswick yn llongyfarch tîm Glanhawyr Stryd y cyngor am eu hymdrechion.

Chwilio A i Y