Baw cŵn
Mae cael gwared ar wastraff eich ci yn gyhoeddus yn hawdd. Codwch y gwastraff gan ddefnyddio bag, ac wedyn ei roi mewn unrhyw fin sbwriel cyhoeddus neu fynd ag ef adref a’i roi yn eich sach tirlenwi.
Mae baw cŵn yn amhleserus, peryglus a niweidiol. Mae peidio â glanhau ar ôl anifeiliaid anwes yn creu risg i bawb o glefydau a heintiau posib a all eu gwneud yn ddall.
I dargedu perchnogion anghyfrifol, rydym wedi pasio Gorchymyn Gwarchod Gofod Cyhoeddus ar gyfer Rheoli Cŵn. Ym mhob gofod cyhoeddus ledled y fwrdeistref sirol, mae’n datgan yr amodau hyn ar gyfer perchnogion sydd â chŵn o dan eu rheolaeth:
- Rhaid i chi gasglu a chael gwared ar ysgarthion eich ci drwy eu codi a’u rhoi mewn bag, neu ddefnyddio dull casglu arall addas. Dylid gadael yr ysgarthion mewn bag mewn bin sbwriel neu fin penodol ar gyfer eu casglu, neu fynd â hwy adref.
- Rhaid i chi gario’r bag neu’r dull addas arall ar gyfer casglu ysgarthion y ci.
- Pan fydd swyddog ag awdurdod yn gofyn am hynny, rhaid i chi roi’r ci sydd dan eich rheolaeth ar dennyn mewn lleoliad penodol neu am gyfnod penodol.
Nid yw rheolau’r gorchymyn yn berthnasol i berson ag anabledd fel y diffinnir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 pan fodlonir yr holl amodau canlynol:
- mae’r ci wedi cael ei neilltuo i rywun i’w helpu gyda’i anabledd
- mae’r ci wedi cael ei hyfforddi’n benodol/ffurfiol gan elusen briodol
- mae gan y person anabledd sy’n ei atal rhag casglu ysgarthion ei gi
Talu dirwy
Mae mynd yn groes i’r gorchymyn yn arwain at hysbysiad cosb penodol o £100. I’w dalu, ewch i wefan ein contractwr troseddau amgylcheddol a gorfodaeth penodol, 3GS.
Teithiau cerdded gyda chŵn gyda bagiau am ddim, a biniau
Rydym wedi ffurfio partneriaeth gyda TiksPac a’r cynghorau tref a chymuned i ddarparu llwybrau cerdded penodol i gŵn sy’n dechrau gyda bagiau cŵn am ddim a biniau. Dyma’r llwybrau hyn:
- Stryd yr Orsaf, Heol Garn, Maesteg
- Y Ganolfan Gymunedol, Clwb Pêl Droed Caereu, Maesteg
- Clos Derllwyn, Tondu
- Parc y Ganolfan Gymunedol, Coytrahen
- Glan-y-nant, Ynysawdre
- Clwb Rygbi, Heol y Cyw
- Stryd Fawr, Blaengarw
- Promenâd Isaf, Porthcawl
- Heol Penprysg, Pencoed
- Cae Pêl Droed, Bracla
- Channel View, Bracla
- Castell Coety, Coety
- Caeau Chwarae, Pendre
- Heol Bryn, Llangrallo
- Eglwys Sant James, Y Pîl
- Sunny Hill, Mynydd Cynffig