Gorfodi
Os byddwch yn gollwng sbwriel mewn lle cyhoeddus, byddwch wedi cyflawni trosedd. Efallai y cewch Hysbysiad Cosb Benodedig o £100 o dan bwerau Deddf Cymdogaethau Glân a’r Amgylchedd 2005.
Rydyn ni wedi gweithio gyda chontractwr preifat i helpu i fynd i’r afael â throseddu amgylcheddol. Mae contract 12 mis newydd wedi cael ei ddyfarnu i’r Cwmni Troseddau a Gorfodaeth Amgylcheddol, 3GS.
Mae swyddogion gorfodi mewn iwnifform sy’n rhoi sylw i sbwriel a baw cŵn yn goruchwylio’r fwrdeistref sirol. Byddant yn rhoi Hysbysiadau Cosb Penodedig i unrhyw un sy’n gollwng sbwriel ar y stryd, mewn parciau neu mewn gofod cyhoeddus yn fwriadol.
Hefyd bydd 3GS yn gweithio gyda ni i hybu ymgyrchoedd gwrth-sbwriel mewn cymunedau lleol. Byddant yn hybu negeseuon positif ac yn tynnu sylw at niwed a risg sbwriel i’r amgylchedd.
I wneud yn siŵr nad ydych chi’n cael dirwy, rhowch eich sbwriel mewn bin sbwriel bob amser. Os nad oes bin sbwriel gerllaw, ewch â’ch sbwriel gartref gyda chi a chael gwared arno’n briodol.
Os ydych chi wedi cael dirwy, ewch i wefan 3GS i’w thalu.