Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwastraff gardd

Gallwch gofrestru ar-lein nawr i gael casgliadau gwastraff gardd yn 2022.

Bydd casgliadau gwastraff gardd yn 2022 yn digwydd rhwng 14 Mawrth ac 18 Tachwedd.

Cofrestrwch ar-lein

Mae’r casgliad gwastraff gardd ar gael i drigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae gwastraff gardd yn cael ei gasglu bob pythefnos rhwng misoedd Mawrth a Thachwedd (14 Mawrth ac 18 Tachwedd 2022).

Rhowch eich gwastraff gardd o flaen eich tŷ rhwng 7pm y noson cynt a 7am ar ddiwrnod y casgliad.  

Sylwer: Byddwch yn cael gwybod pa ddiwrnod yw’r diwrnod casglu eich gwastraff gardd pan fydd eich sachau’n cael eu dosbarthu.

Cost

Codir ffi flynyddol o £41.01 fesul cartref, neu £36.73 i bensiynwyr. Mae pob cartref sy’n cofrestru’n cael dau fag gardd i gasglu a storio gwastraff gardd yn barod ar gyfer y diwrnod casglu. Gellir prynu bagiau ychwanegol am ffi flynyddol ychwanegol o £5.35. Ni ad-delir y ffi hon.

Rydym yn casglu:

  • planhigion
  • blodau
  • chwyn
  • glaswellt
  • dail
  • toriadau gwrychoedd

Nid ydym yn casglu:

  • gwastraff cegin
  • gwastraff cyffredinol
  • pridd
  • rwbel
  • boncyffion coed
  • rhywogaethau ymledol fel canclwm Japan

Gallwch hefyd ailgylchu eich gwastraff gardd am ddim yn eich canolfan ailgylchu agosaf.

Sylwer: Os byddwch yn symud tŷ, gellir symud y casgliad i’ch cyfeiriad newydd os yw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Cysylltwch â ni gyda manylion eich cyfeiriad newydd.

Cysylltu

Ffôn: 01656 643643

Chwilio A i Y