Trefn Torri Glaswellt 2022
Mannau Gwyrdd sy’n gyfrifol am dorri glaswellt sy’n berchen i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae sefydliadau eraill fel Cynghorau Cymuned a Chymdeithasau Tai hefyd yn torri glaswellt mewn mannau cyhoeddus o fewn y fwrdeistref.
Mae Mannau Gwyrdd yn gyfrifol am dorri glaswellt:
- lleiniau canol
- meysydd chwarae plant (nid yw’r holl gaeau chwarae yn y Fwrdeistref yn berchen i BCBC)
- ymylon priffyrdd
- parciau a chaeau chwaraeon
- mannau agored cyhoeddus
Gan fod cynghorau’n ceisio cydbwyso bioamrywiaeth gyda materion fel gofynion diogelwch y briffordd, mae gofyn i ni dorri’r glaswellt mewn lleoliadau penodol o hyd er mwyn sicrhau nad yw’n rhwystro gyrwyr rhag gweld yn glir, neu er mwyn sicrhau bod llwybrau cerdded yn parhau’n hygyrch. Rydym yn cynnal mannau agored a phriffyrdd er mwyn cefnogi blodau gwyllt ac rydym wedi cyfyngu ar ein trefniadau torri glaswellt blynyddol yn sylweddol er mwyn mynd ati’n weithredol i reoli ein tir a hyrwyddo amrywiaeth ecolegol a blodeuog lle bynnag fo modd.
Nid ydym yn torri glaswellt:
- ar eiddo neu ystadau sy’n berchen i gyrff ar wahân i’r cyngor, er enghraifft Cynghorau Cymuned neu Gymdeithasau Tai
- eiddo preifat
Pa mor aml ydym yn torri glaswellt
Rydym yn torri glaswellt rhwng mis Ebrill a mis Hydref.
Glaswellt trefol
Mae glaswellt trefol yn golygu mannau agored cyhoeddus ac ymylon priffyrdd. Byddwn yn torri glaswellt trefol bum gwaith eleni rhwng mis Ebrill a mis Medi. Bwriedir dechrau torri glaswellt trefol eleni ar 4 Ebrill 2022. Byddwn yn cyfyngu ar strimio y tymor hwn.
- Dechrau ar y toriad cyntaf 4 Ebrill 2022
- Dechrau ar yr ail doriad 16 Mai 2022
- Dechrau ar y trydydd toriad 27 Mehefin 2022
- Dechrau ar y pedwerydd toriad 8 Awst 2022
- Dechrau ar y pumed toriad 19 Medi 2022
Glaswellt gwledig
Glaswellt gwledig yw glaswellt sydd i’w weld ar ymylon prif ffyrdd a lleiniau canol. Caiff ei dorri bedair gwaith y flwyddyn.
- Dechrau ar y toriad cyntaf 3 Mai 2022
- Dechrau ar yr ail doriad 13 Mehefin 2022
- Dechrau ar y trydydd toriad 25 Gorffennaf 2022
- Dechrau ar y pedwerydd toriad 5 Medi 2022
Ardaloedd naturiol
Mewn ardaloedd gwaith trefol a glaswellt gwledig, mae ardaloedd naturiol yn cael eu torri ddwywaith y tymor, er mwyn annog gwell amrywiaeth ecolegol.
Lonydd gwledig
Caiff lonydd gwledig eu torri ddwywaith y flwyddyn. Mae’r toriad cyntaf yn dechrau ym mis Mai, a’r ail yn cael ei wneud ddiwedd mis Awst.
Parciau a chaeau chwarae
Fel arfer, caiff parciau a chaeau chwaraeon eu torri bob 10 diwrnod gwaith drwy gydol y tymor.
Gall holl drefniadau torri glaswellt newid oherwydd y tywydd, cyflwr y tir a gwaith ffordd.