Canolfannau Ailgylchu Cymunedol
Gallwch ailgylchu’r rhan fwyaf o’ch gwastraff yn ein canolfannau ailgylchu cymunedol.
Yr hyn y gallwch ei ailgylchu yn eich canolfan leol
Cyn i chi fynd i’ch canolfan ailgylchu gymunedol leol, cadarnhewch ein bod yn gallu derbyn eich gwastraff. Gallwn ailgylchu:
- batris (car neu’r cartref)
- beiciau
- bric-a-brac
- caniau
- cardbord
- olew coginio
- silindrau nwy
- poteli a jariau gwydr
- gwastraff gwyrdd/gwastraff gardd
- eitemau trydanol ac electronig
- oergelloedd/rhewgelloedd
- olew modur
- papur
- paent
- deunyddiau plastig
- metel sgrap
- pridd
- tecstilau
- pren
Nodwch:
Trefnwch eich ailgylchu cyn dod i’r ganolfan ailgylchu gymunedol i osgoi oedi. Gallwch roi bagiau o wastraff y cartref yn y sgip gwastraff cyffredinol, ond ni fyddant yn cael eu derbyn os ydynt yn cynnwys unrhyw ddeunydd y gellir ei ailgylchu.
Derbynnir asbestos yng Nghanolfan Llandudwg gyda thrwydded dipio’n unig. Bydd ffi’n berthnasol.
Dosberthir plastrfwrdd a rwbel fel gwastraff adeiladu a chewch ddod â dau fag o’r rhain yn unig. Os oes gennych symiau mawr o’r rhain, bydd angen i chi archebu sgip neu logi cwmni gwaredu gwastraff. Ni dderbynnir gwastraff masnach.
Peidiwch â gadael gwastraff y tu allan i’r canolfannau ailgylchu cymunedol. Gallech gael eich erlyn am dipio anghyfreithlon.
Lleoliadau
Mae tair canolfan ailgylchu gymunedol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar hyn o bryd. Mae’r rhain ym Mrynmenyn, Maesteg a Llandudwg.
Llandudwg
Cyfeiriad: Davies (Bros) Waste, Llandudwg, CF32 0NE.
Maesteg
Cyfeiriad: Ystâd Ddiwydiannol Heol Tŷ Gwyn, Maesteg, CF34 0BQ.
Bryncethin
Cyfeiriad: Ystâd Ddiwydiannol Brynmenyn, Brynmenyn, CF32 9SZ.
Oriau agor
Oriau agor yr haf (1 Ebrill hyd at 30 Medi)
- Dydd Llun hyd at Dydd Gwener: 8.30am hyd at 8pm
- Dydd Sadwrn a Dydd Sul: 8.30am hyd at 6pm
Oriau agor y gaeaf (1 Hydref hyd at 31 Mawrth)
- Dydd Llun hyd at Dydd Sul: 8.30am hyd at 4.30pm
Caiff gatiau eu cau ddeg munud cyn yr amseroedd cau. Bydd yr holl safleoedd ar gau ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.
Trwyddedau Tipio
Os hoffech fynd â fan neu drelar i ganolfan ailgylchu gymunedol Llandudwg neu Faesteg, mae angen trwydded dipio arnoch. Mae hyn yn ein helpu i reoli gwastraff nad yw’n wastraff y cartref.
Mae’r cerbydau y mae angen trwydded arnynt yn cynnwys:
- faniau â phellter byr rhwng echeli
- trelars rhwng 5 troedfedd a 6 throedfedd 6 modfedd (1.5m i 2m) o hyd
- cerbydau SUV 4x4 (gyda chefn agored neu gaeedig)
Ni chaniateir i gerbydau neu drelars mawr ddefnyddio canolfannau ailgylchu cymunedol. Os ydych yn defnyddio car neu drelar sy’n llai na 5tr o hyd yna nid oes angen i chi gofrestru eich cerbyd cyn dod.
Nodwch na allwch fynd â faniau na threlars i'n canolfan ym Mrynmenyn.
Cael trwydded dipio
Gallwch gael trwyddedau tipio am ddim trwy ffonio 01656 643643 o leiaf 48 awr cyn eich bod eisiau dod i un o’r canolfannau.
Bydd angen i chi roi’r manylion canlynol:
- eich enw a’ch cyfeiriad
- rhestr o eitemau rydych am eu hailgylchu
- y dyddiad a’r ganolfan rydych am fynd iddi
- rhif cofrestru, gwneuthuriad a model eich cerbyd
Mewn rhai achosion gallai fod angen i ni edrych ar y gwastraff rydych am ei waredu cyn rhoi trwydded. Gellir gwneud hyn yn eich cartref.