Gwastraff masnachu a masnachol
Gwastraff a ddaw o’r canlynol yw gwastraff masnachu:
- safleoedd masnachu a busnes
- safleoedd ar gyfer chwaraeon, hamdden neu adloniant
Mae busnesau’n gallu defnyddio unrhyw gontractwr casglu gwastraff ag enw da i gael gwared ar eu gwastraff. Rydym ni’n cynnig gwasanaeth am gost i fusnesau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae gennym ni ystod o gynhwysyddion i helpu busnesau i storio eu gwastraff rhwng diwrnodau casglu, gan gynnwys:
- Biniau olwynion 360 litr
- Biniau olwynion 660 litr
- Biniau olwynion 1100 litr
- Sachau gwastraff masnach
Dewisir y cynhwysydd a gewch chi ar sail y gwastraff sy'n cael ei gynhyrchu a nifer diwrnodau casglu'r wythnos.
Ni chewch chi fynd â gwastraff masnachol i unrhyw un o’r canolfannau ailgylchu gwastraff aelwyd. Dim ond gwastraff aelwydydd y mae'r safleoedd hyn wedi'u trwyddedu i’w dderbyn.
I gael gwybod rhagor am ein gwasanaeth casglu gwastraff masnachol neu i drefnu gwasanaeth casglu ar gyfer eich busnes, cysylltwch â'r canlynol: