Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr
Mae Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr yn helpu trigolion cyflogedig a di-waith Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr y mae angen cymorth arnynt gyda chyflogadwyedd. Gall eich helpu i wella eich sgiliau, cael swydd neu gael swydd well.
Mae hyn yn cynnwys darparu’r canlynol:
- cymwysterau a hyfforddiant am ddim
- cymorth i chwilio am swydd
- datblygu CV gan gynnwys lleoliadau gwirfoddoli
Gall yr hyfforddiant gynnwys gwella sgiliau ‘meddal’ fel hyder a thechnegau cyfweld, neu gymwysterau galwedigaethol fel cardiau CSCS a chymwysterau Cynorthwyydd Addysgu. Caiff yr hyfforddiant ei arwain gan gleientiaid, felly gallwch gael gafael ar gymorth sy’n berthnasol i chi.
Efallai y bydd posib i ni ddarparu cymorth ar gyfer costau cysylltiedig â gwaith hefyd, fel:
- cludiant i’ch gwaith nes y cewch eich talu
- dillad, er enghraifft esgidiau gwaith
Rydym yn seiliedig yn y gymuned ac yn cwrdd â chleientiaid mewn lleoliadau o bob cwr o’r fwrdeistref.
Cawn ein hariannu drwy Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop.
I gael help gyda chyflogadwyedd, cysylltwch â:
Cyswllt
Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr
Dyddiaduron y cyfyngiadau symud
Rydyn ni yn ‘Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr’ yn gobeithio eich bod chi’n iawn. Er nad ydym yn gallu eich gweld chi wyneb yn wyneb, mae ein timau wedi bod yn gweithio’n galed i’ch cefnogi chi. Dyma ein diweddariadau ni gan y canlynol:
- hyfforddwyr sgiliau/cyfranogwyr a swyddogion ymgysylltu, sy’n gyfrifol am archebu a chyflwyno hyfforddiant a chymwysterau
- mentoriaid, sy’n gyfrifol am helpu cyfranogwyr i greu cynlluniau gweithredu a magu hyder neu oresgyn rhwystrau
- swyddogion cyswllt cyflogaeth, sy’n gyfrifol am gefnogi pobl i waith a chysylltu â chyflogwyr
Cofnodion dyddiaduron y cyfyngiadau symud:
- dyddiadur y cyfyngiadau symud un
- dyddiadur y cyfyngiadau symud dau
- dyddiadur y cyfyngiadau symud tri
- dyddiadur y cyfyngiadau symud pedwar
- dyddiadur y cyfyngiadau symud pump
- dyddiadur y cyfyngiadau symud chwech