Cynllun Cymorth Dewisol
Nod y Cynllun Cymorth Dewisol yw helpu'r holl aelwydydd cymwys y nodwyd bod angen cymorth ariannol arnynt fwyaf yn ystod yr argyfwng costau byw.
Mae’r cynllun, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ar gael i’r grwpiau canlynol o bobl ac unigolion:
Cymhwysedd
- Yn atebol i dalu’r dreth gyngor ar eiddo ar 1 Awst 2022
- Yn byw yn yr eiddo fel eu prif breswylfa ar 1 Awst 2022, ac
- Yn gyfrifol am dalu’r biliau cyfleustodau cysylltiedig a biliau eraill rheolaidd ar gyfer yr eiddo ar 1 Awst 2022
Ac
- Roedd yn derbyn Gostyngiad Band Anabl Treth y Cyngor ac nid ydynt eisoes wedi derbyn taliad costau byw o dan y prif gynllun.
Neu
- Roedd yn derbyn eithriad rhag Treth y Cyngor ar 1 Awst 2022 ar gyfer un o’r dosbarthiadau a ganlyn:-
- Nam meddwl difrifol (Dosbarth U)
- Darparu gofal – (Dosbarth J)
- Derbyn gofal – (Dosbarth I)
- Person sy'n gadael gofal – Dosbarth X)
- O dan 18 oed, ac yn byw ar eich pen eich hun – (Dosbarth S)
- Myfyriwr llawn amser – (Dosbarth N)
Neu
- Roedd yr unigolyn a'i deulu yn byw mewn llety dros dro
- Roedd yn atebol i dalu’r dreth gyngor ar eiddo ar 1 Awst 2022
- Ddim yn derbyn eithriad ar gyfer yr eiddo hwnnw ar 1 Awst 2022
- Yn byw yn yr eiddo fel eu prif breswylfa ar 1 Awst 2022, ac
- Yn gyfrifol am dalu’r biliau cyfleustodau cysylltiedig a biliau eraill rheolaidd ar gyfer yr eiddo ar 1 Awst 2022
- Ddim yn derbyn Gostyngiad y Dreth Gyngor ar 1 Awst 2022
- Mae'n unigolyn sy'n byw mewn llety dros dro
Bydd taleb o £50 hefyd yn cael ei darparu i bob plentyn unigol sy’n derbyn prydau ysgol am ddim.
Taliadau
Bydd trigolion sydd ar hyn o bryd yn talu eu treth gyngor drwy ddebyd uniongyrchol yn derbyn y taliadau yn awtomatig.
Bydd y rhai nad ydynt yn talu drwy ddebyd uniongyrchol yn derbyn llythyr neu e-bost gyda chod mynediad gyda chyfarwyddiadau ar sut i gofrestru ar gyfer y taliad.
Peidiwch â chysylltu â ni ynglŷn â hyn oherwydd gallai arwain at oedi wrth brosesu eich taliad.
Cwestiynau Cyffredin
Bydd y cynllun hwn yn weithredol o 1 Hydref 2022.
Cyllidir y cynllun yn gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru (LlC). Mae LlC wedi dyrannu £1,236,137 ar gyfer y cynllun hwn
Rhaid gwneud y taliadau terfynol cyn 31 Mawrth 2023.
Mae p'un ai a ydych chi'n gymwys ar gyfer y Cynllun wedi'i nodi yn yr amserlen isod.
Mae lefel y taliad yn amrywio ar draws y gwahanol gategorïau. Mae'r manylion i'w gweld ar yr amserlen sydd ynghlwm.
Ar gyfer y rhai ym mandiau treth gyngor E ac F:
Os ydych yn talu eich treth gyngor drwy Ddebyd Uniongyrchol ar hyn o bryd, bydd eich taliad yn cael ei wneud ar ôl 1 Hydref, nid oes angen i chi wneud cais am yr arian hwn.
Os nad ydych yn talu eich treth gyngor drwy Ddebyd Uniongyrchol, byddwn yn anfon e-bost neu lythyr atoch i ofyn am fanylion eich cyfrif banc er mwyn ein galluogi i wneud taliad. Rhaid cofrestru eich manylion ar-lein a bydd manylion am sut i wneud hyn yn y llythyr a gewch.
Ar gyfer taliadau sy’n gysylltiedig â Phrydau Ysgol Am Ddim:
Os ydych wedi derbyn talebau ar gyfer PYADd dros yr haf, byddwn yn defnyddio'r un dull i wneud y taliadau ar gyfer PYADd. Bydd y talebau’n cael eu hanfon atoch yn awtomatig – ni fydd angen i chi wneud cais am yr arian hwn.
Os ydych mewn llety dros dro:
Bydd tîm tai’r cyngor yn cysylltu â chi i ofyn am eich manylion banc i’n galluogi i wneud y taliad.
Byddwch, byddwch yn dal i gael y talebau ychwanegol o £50 ar gyfer plant sydd â hawl i gael PYADd ar y dyddiad cymhwyso, sef 1 Awst 2022.
Na fyddant - mae'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wedi cadarnhau bod taliadau a wneir o dan Ddarpariaeth Les Leol yn cael eu diystyru wrth asesu Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm ac ESA Cysylltiedig ag Incwm felly ni fydd hyn yn cael ei effeithio. Ni fydd hawlwyr Credyd Cynhwysol yn gweld eu hawl yn newid o ganlyniad i dderbyn y taliad hwn.
Nid yw'r manylion ar gyfer sut bydd y cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio wedi'u pennu'n derfynol. Bydd y swm sydd ar gael yn dibynnu ar y defnydd o'r cyllid yn y tri phrif grŵp yn y cynllun. Unwaith y bydd y manylion wedi'u cadarnhau byddant yn cael eu hyrwyddo yn unol â hynny.
Os oes gennych chi aelod o'r teulu neu ffrind rydych chi'n ymddiried ynddo a all eich cynorthwyo, dangoswch eich llythyr iddo a gofyn iddo eich helpu.
Os ydych chi angen cymorth o hyd:
- ffoniwch y cyngor ar 01656 643643 a gall rhywun eich cynorthwyo i nodi'r manylion angenrheidiol
- gellir darparu cymorth drwy eich llyfrgell leol – ewch â'ch llythyr gyda chi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth bwysig y bydd ei hangen i gwblhau eich cofrestriad
Byddwn yn dechrau gwneud y taliadau awtomatig o 1 Hydref 2022 ymlaen.
Os bydd angen i ni ofyn am wybodaeth gennych i brosesu eich taliad, byddwn yn anfon e-bost neu lythyr atoch yn ystod mis Hydref.
Os na allwch ddod o hyd i ateb i'ch ymholiad ar ein gwefan, dylech naill ai:
- ffonio 01656 643643, neu
- e-bostio: COL@bridgend.gov.uk
Os ydych yn dymuno cyflwyno apêl, gallwch wneud hynny drwy gysylltu â’r Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid ar COLappeals@bridgend.gov.uk
Mae penderfyniad y Prif Swyddog yn derfynol
Ni fydd y cynllun yn effeithio ar unrhyw un o'r budd-daliadau eraill y mae aelwydydd cymwys yn eu derbyn ar hyn o bryd na'r taliadau treth gyngor sy'n cael eu gwneud ar hyn o bryd.
Disgwylir i daliadau gael eu gwneud o 1 Hydref 2022 ymlaen, a disgwylir i’r cynllun fod yn weithredol tan 31 Mawrth 2023.