Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr 2006-2021
Mabwysiadwyd Cynllun Datblygu Lleol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (2006 - 2021) yn ffurfiol gan y Cyngor ar 18 Medi 2013. Ar ôl mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr, mae gan y cyngor rwymedigaeth statudol o dan adran 76 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 i gyflwyno Adroddiad Monitro Blynyddol.
Prif nod yr Adroddiad Monitro Blynyddol yw asesu i ba raddau y mae Strategaeth a Pholisïau’r Cynllun Datblygu Lleol yn cael eu cyflawni. Mae gan yr Adroddiad Monitro Blynyddol felly ddwy brif swyddogaeth; y gyntaf yw ystyried pa un a yw’r polisïau a nodir yn y broses monitro yn cael eu gweithredu’n llwyddiannus; a'r ail yw ystyried y cynllun yn ei gyfanrwydd o’i gymharu â’r holl wybodaeth a gasglwyd i benderfynu pa un a oes angen adolygiad cyflawn neu rannol o’r cynllun.
- Adroddiad Monitro Blynyddol 1 Ebrill 2019 – 31 Mawrth 2021
- Adroddiad Monitro Blynyddol 1 Ebrill 2018 - 31 Mawrth 2019
- Adroddiad Monitro Blynyddol 1 Ebrill 2017 - 31 Mawrth 2018
- Adroddiad Monitro Blynyddol 1 Ebrill 2016 - 31 Mawrth 2017
- Adroddiad Monitro Blynyddol 1 Ebrill 2015 - 31 Mawrth 2016
- Adroddiad Monitro Blynyddol 1 Ebrill 2014 - 31 Mawrth 2015
Cyhoeddwyd y dogfennau hyn cyn i Safonau’r Gymraeg ddod i rym ar 31 Mawrth 2015 neu nid yw’r safonau’n berthnasol iddynt. Dim ond yn Saesneg mae’r dogfennau hyn ar gael.