Adroddiad Ymgynghori
Yn dilyn ymgynghori ynghylch fersiwn adneuo Cynllun Datblygu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod haf 2011 a’r ymgynghoriad ynghylch Safleoedd Amgen yn ystod gaeaf 2011, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr bellach wedi ystyried yr holl sylwadau a ddaeth i law.
Yn ei gyfarfod ar 11 Gorffennaf 2010, fe gytunodd y Cyngor i gyhoeddi Adroddiad Ymgynghori’r CDLl. Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r holl gamau y mae’r Cynllun wedi mynd drwyddynt, cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth Gynllunio i gael ei archwilio.
Mae’r Adroddiad Ymgynghori hefyd yn nodi ymateb y Cyngor i’r holl sylwadau a gafwyd ar y Cynllun Adneuo a’r Safleoedd Amgen a gellir ei weld trwy ddilyn y dolenni isod.
Os byddwch yn dymuno mynd yn uniongyrchol at ymatebion unigolyn / sefydliad arbennig i’r Cynllun Adneuo, neu Safle Amgen penodol, defnyddiwch y dolenni ar wahân a geir isod os gwelwch yn dda.
Cyhoeddwyd y dogfennau hyn cyn i Safonau’r Gymraeg ddod i rym ar 31 Mawrth 2015 neu nid yw’r safonau’n berthnasol iddynt. Dim ond yn Saesneg mae’r dogfennau hyn ar gael.
Dogfennau
- Adroddiad Ymgynghori Cyfrol 1 (O’r Cytundeb Cyflawni i’r Cynigion Cyn Adneuo) - PDF 23825Kb
- Adroddiad Ymgynghori Cyfrol 2 (Cynllun Adneuo a’r Ymgynghoriad ynghylch Safleoedd Amgen) - PDF 8817Kb
- Adroddiad Ymgynghori Cyfrol 2 Atodiad I (Sylwadau ar y CDLl Adneuo ac Ymateb y Cyngor) - PDF 2597Kb
- Adroddiad Ymgynghori Cyfrol 2 Atodiad J (Sylwadau ar y Safleoedd Amgen ac Ymateb y Cyngor) - PDF 5088Kb