Ein diweddar Frenhines, y Frenhines Elizabeth yr Ail
Yn dilyn y cyhoeddiad trist o Balas Buckingham am farwolaeth ein Boneddiges Sofran ddiweddar y Frenhines Elizabeth II, mae’r Deyrnas Unedig wedi dechrau ar gyfnod o alaru cenedlaethol rhwng nawr a’r diwrnod ar ôl ei hangladd.
Fel arwydd o barch yn y cyfamser, bydd y baneri yn y Swyddfeydd Dinesig ar Stryd yr Angel yn cael eu chwifio ar hanner mast ac mae llyfrau cydymdeimlo cyhoeddus ar gael yn ein canolfan gwasanaeth cwsmeriaid.
Llyfr Cydymdeimlo
Mae llyfr cydymdeimlo ar gael i’w arwyddo yn y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr (CF31 4WB) rhwng 1:30pm a 5:00pm heddiw ac ar ddydd Sadwrn 10 a dydd Sul 11 Medi, rhwng 10am a 4pm.
O ddydd Llun 12 Medi tan ddydd Iau 15 Medi, byddwch yn gallu llofnodi’r llyfr cydymdeimlo rhwng 8.30am-5pm, rhwng 8.30am a 4pm ar ddydd Gwener 16 Medi, ac ar ddydd Sadwrn 17 a dydd Sul 18 Medi, rhwng 10am a 4pm.
Gallwch adael neges o gydymdeimlad ar-lein ar wefan y Teulu Brenhinol.
Teyrngedau blodau
Gallwch adael teyrngedau blodau yn y lleoliad canlynol. Byddant yn cael eu symud ar ôl angladd ein Boneddiges Sofran ddiweddar y Frenhines Elizabeth II.
Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr (CF31 4WB).
Gadewch y blodau heb eu lapio a heb ddim seloffen na phapur.
Proclamasiwn
Heddiw, 11 Medi, cynhaliwyd seremoni’r Proclamasiwn Brenhinol am 1.30pm y tu allan i Swyddfa’r Sir, lle cyhoeddwyd Ei Fawrhydi, Brenin Charles III, yn swyddogol gan y Maer Martyn Jones.
Fel arwydd o barch, mae’r baneri yn Swyddfa’r Sir yn chwifio ar eu hanner. Maent wedi eu codi i nodi proclamasiwn dyfodiad teyrn newydd ac yna’n dychwelyd at eu hanner hyd nes y bydd angladd ein diweddar Frenhines, y Frenhines Elizabeth yr Ail, wedi ei gynnal.
Angladd Gwladol
Mae’r trefniadau sydd yn eu lle ar gyfer Angladd ein Boneddiges Sofran ddiweddar y Frenhines Elizabeth II, a’r seremoni fydd ynghlwm, wedi cael eu cyhoeddi: https://www.royal.uk/arrangements-funeral-her-majesty-queen.
Cynhelir yr Angladd yn Abaty Westminster am 11am ar ddydd Llun 19 Medi, a fydd yn ŵyl y banc.
Yn y cyfnod yn arwain at angladd ein Boneddiges Sofran ddiweddar y Frenhines Elizabeth II, bydd ysgolion a cholegau Cymru yn parhau ar agor.
Bydd holl gyfarfodydd cyhoeddus y cyngor yn cael eu canslo neu eu gohirio yn ystod y cyfnod o alaru cenedlaethol, tan ar ôl angladd ein Boneddiges Sofran ddiweddar y Frenhines Elizabeth II.
.