Cyhoeddi esgyniad y Brenin Siarl III
Rydym yn dod at ein gilydd y prynhawn yma yn dilyn marwolaeth ein diweddar Frenhines, y Frenhines Elizabeth yr Ail.
Mae ein tristwch ar yr adeg hon yn cael ei deimlo gan bobl o bedwar ban byd, wrth i ni gofio, gyda hoffter a diolchgarwch, yr oes o wasanaeth a roddwyd gan y Teyrn sydd wedi teyrnasu hiraf ym Mhrydain.
Gall pobl osod blodau yn y Swyddfeydd Dinesig, a bydd Llyfr Cydymdeimlo yn cael ei agor yn y Swyddfa Ddinesig, ac ar gael i bobl ei arwyddo tan y diwrnod ar ôl yr angladd gwladol.
Mae’r sail yr adeiladwyd ein brenhiniaeth arni wedi sicrhau bod y Goron wedi’i throsglwyddo mewn olyniaeth ddi-dor trwy’r canrifoedd.
Mae seremoni heddiw nodi’r Proclamasiwn ffurfiol i bobl Pen-y-bont ar Ogwr o ddechrau teyrnasiad ein Brenin newydd.
Ddoe, cyfarfu Cyngor yr Esgyniad ym Mhalas St James i gyhoeddi’r Brenin newydd.
Cafodd y baneri a oedd wedi bod yn chwifio ar eu hanner ers marwolaeth y Frenhines eu codi i’w huchder llawn am ychydig i nodi dechrau teyrnasiad Ei Mawrhydi.
Cafwyd Gorchymyn hefyd gan Gyngor yr Esgyniad, yn gofyn i’r Uchel Siryfion drefnu i’r Proclamasiwn gael ei ddarllen yn yr ardaloedd o dan eu hawdurdod.
Cyflawnodd Uchel Siryf Morgannwg Ganol y ddyletswydd honno yn gynharach heddiw a nawr, yr wyf yn dod â geiriau’r Proclamasiwn i drigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Boneddigion a Boneddigesau, dyma Broclamasiwn yr Esgyniad:
Gan ei bod wedi rhyngu bodd i Dduw Hollalluog i alw i’w Ofal ein diweddar Sofran, yr Arglwyddes Frenhines Elizabeth yr Ail, o Fendigaid a Gogoneddus Goffadwriaeth, y mae Coron Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, oblegid ei Hymadawiad, wedi dod yn gwbl ac yn gyfiawn i ran y Tywysog Charles Philip Arthur George: Yr ydym ninnau, felly, Arglwyddi Ysbrydol a Thymhorol y Deyrnas hon ac Aelodau o Dŷ’r Cyffredin, ynghyd ag aelodau eraill o Gyfrin Gyngor Ei diweddar Fawrhydi, cynrychiolwyr y Teyrnasoedd a’r Tiriogaethau, Henaduriaid a Dinasyddion Llundain, ac eraill, yn awr yn datgan ac yn cyhoeddi drwy hyn yn unllais ac o Galon a Thafod unfryd fod y Tywysog Charles Philip Arthur George, bellach, oblegid Marwolaeth ein diweddar Sofran o Serchus Goffadwriaeth, wedi dod inni yn unig gyfreithlon a chyfiawn Ddyledog Arglwydd Charles y Trydydd, drwy Ras Duw, ar Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a’i Deyrnasoedd eraill, yn Frenin, yn Ben ar y Gymanwlad, yn Amddiffynnwr y Ffydd, i’r hwn yr ydym yn datgan, ag Anwylserch gostyngedig, ein holl Ffydd a’n Hufudd-dod; gan atolwg ar i Dduw, drwy’r hwn y mae Brenhinoedd a Breninesau yn teyrnasu, fendithio Ei Fawrhydi â hir Oes hapus i deyrnasu drosom.
Rhoddwyd ym Mhalas St. James y degfed dydd o fis Medi ym mlwyddyn Ein Harglwydd dwy fil a dwy ar hugain.
DUW A GADWO’R BRENIN