Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gweithredu ynghylch Rheolau Parcio

Rydym yn gyfrifol am weithredu rheolau parcio ar y stryd a rheolau meysydd parcio, ac eithrio mewn meysydd parcio preifat. Gall wardeiniaid traffig gyflwyno Hysbysiadau Tâl Cosb (PCNs) ar gyfer cerbydau sy’n torri rheolau parcio.
Rydym yn gyfrifol am orfodi ynghylch y canlynol:
  • arosfannau bws a chlirffyrdd
  • ardaloedd parcio dan reolaeth
  • meysydd parcio’r cyngor
  • baeau parcio anabl
  • baeau talu ac arddangos
  • croesfannau i gerddwyr a marciau igam ogam, y mae’r heddlu’n gyfrifol amdanynt hefyd             
  • baeau parcio trigolion lleol
  • marciau igam ogam melyn ysgolion
  • cyrbiau wedi’u gostwng
  • safleoedd tacsis
  • llinellau melyn
Mae’r heddlu’n delio â’r canlynol:
  • cyrbiau wedi’u gostwng neu wrthlifau cerbydau, gan gynnwys materion rhwystro 
  • troseddau traffig yn symud
  • rhwystro ar briffyrdd
  • parcio ar y palmant

Dirwyon

Mae’r cosbau’n haneru o’u talu o fewn 14 diwrnod.
Crynodeb o’r dirwyon 
Cyfradd uchel £70
Cyfradd isel £50

Apelio yn erbyn PCN

Cyflwyno apêl bellach

Os yw eich apêl yn aflwyddiannus, gallwch ddefnyddio gwasanaeth y Tribiwnlys Cosbau Traffig. Mae hwn yn wasanaeth annibynnol sy’n gweithredu’r holl apeliadau terfynol ar gyfer pob PCN. Mae ei benderfyniad yn derfynol ac yn rhwymo. Bydd y dyfarnwr yn edrych ar y ffeithiau i gyd a gyflwynir gennym ni a chi. Yn gwbl annibynnol, byddant yn gwneud penderfyniad yn seiliedig ar y ffeithiau sy’n cael eu darparu yn unig.

Sut i osgoi dirwyon 

Gwnewch y canlynol:
  • parcio’n ddiogel
  • parcio yn y gofod a ganiateir sydd wedi’i ddarparu
  • edrych ar yr arwyddion am gyfyngiadau amser, oherwydd gall y rhain amrywio, gan gofio y gall arwyddion fod ymhellach i ffwrdd os yw’r ardal mewn parth parcio dan reolaeth 
  • gadael o fewn y cyfyngiad amser
  • defnyddio ac arddangos eich bathodyn person anabl fel y nodir yn y llyfr bathodynnau glas
  • llwytho a dadlwytho cyn gynted â phosib
  • edrych ar y marciau ffordd cyn parcio
  • darllen rheolau’r ffordd fawr i’ch atgoffa am ystyron marciau        
  • bod yn ymwybodol bod cyfyngiadau aros yn berthnasol i’r briffordd gyfan, gan gynnwys ymylon ffyrdd a phalmentydd
  • arddangos pob tocyn talu ac arddangos yn gywir

Peidiwch â gwneud y canlynol:

  • parcio ar linellau melyn dwbl a dim ond parcio ar linellau melyn sengl ar amseroedd a ganiateir
  • parcio mewn caeau anabl heb ddangos bathodyn glas anabl dilys          
  • parcio mewn baeau i drigolion lleol heb arddangos trwydded ddilys ar gyfer y lleoliad hwnnw
  • achosi rhwystr          
  • parcio neu stopio mewn arosfannau bws neu ar glirffyrdd, dim hyd yn oed i godi neu ollwng teithwyr              
  • parcio neu stopio ar linellau igam ogam sy’n arwain i neu o groesfannau i gerddwyr
  • parcio neu aros mewn safleoedd tacsis
  • parcio neu aros lle mae cyfyngiadau llwytho yn eu lle 
  • parcio neu stopio ar farciau igam ogam ysgol, dim hyd yn oed i godi neu ollwng rhywun yn sydyn

Gorchmynion rheoli traffig

Ni allwn orfodi rheolau parcio os nad oes Gorchymyn Rheoli Traffig (TRO) yn ei le. Gellir edrych ar bob TRO o dan y Llyfrgell TRO ar wefan y Tribiwnlys Cosbau Traffig. Cofiwch y gall unrhyw TRO newydd gymryd ychydig o amser i ymddangos yn y llyfrgell. 

Car Camera ‘Roly Patroly’

Ers mis Awst 2018 mae car camera o’r enw ‘Roly Patroly’ wedi lleihau’r parcio anghyfreithlon ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Er ei fod yn cael ei ddefnyddio’n bennaf i oruchwylio y tu allan i ysgolion, mae’r car hefyd yn rhoi hysbysiadau tâl cosb i gerbydau a welir yn stopio ar:
  • arosfannau bws
  • croesfannau i gerddwyr
  • safleoedd tacsis
  • lle mae cyfyngiadau llwytho/dadlwytho mewn grym  
Bydd hysbysiadau tâl cosb ein car camera’n cael eu postio at y ceidwad cofrestredig ar ôl i’r DVLA ddarparu’r manylion hyn.     

Chwilio A i Y