Tocynnau bws
Os yw eich prif gyfeiriad yng Nghymru a'ch bod naill ai'n 60 oed a throsodd neu'n bodloni meini prawf cymhwysedd anabledd y Llywodraeth, gallwch deithio am ddim ar y rhan fwyaf gwasanaethau bysiau yng Nghymru a'r gororau a chael teithio am bris gostyngol neu am ddim ar lawer o wasanaethau trenau
Mae Cerdyn Teithio Rhatach Cymru yn ddilys ar bob gwasanaeth bws cymwys sy’n gweithredu yng Nghymru, gan gynnwys y gwasanaethau sy’n dechrau neu’n gorffen eu taith mewn mannau dros y ffin, ar yr amod nad yw’r daith honno’n golygu newid bws yn Lloegr. Gallwch hefyd ddefnyddio rhai gwasanaethau trên dethol sy’n gweithredu yng Nghymru.
Sut i ymgeisio
Gallwch wneud cais am eich cerdyn teithio rhatach ar wefan Trafnidiaeth Cymru neu ofyn i ffrind, aelod o’r teulu neu rywun yr ydych yn ymddiried ynddo i wneud cais ar-lein ar eich rhan. Mynd ar-lein yw’r ffordd gyflymaf o wneud cais a chael eich cerdyn.
Tocynnau Cydymaith
Mae ar rai pobl angen person arall i deithio gyda nhw oherwydd problem feddygol neu anabledd. Mewn achosion o’r fath, efallai y byddwch yn gallu cael tocyn cydymaith fel bod modd iddynt deithio â chi am ddim. Efallai y bydd ffi ychwanegol am hyn, y bydd yn rhaid i'r ymgeisydd ei thalu, oherwydd efallai y bydd angen tystiolaeth feddygol.