Cofnodion genedigaethau, marwolaethau a phriodasau
Mae tystysgrifau newydd ar gael nawr o Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr. Dim ond os yw’r enedigaeth, y briodas neu’r farwolaeth wedi digwydd yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr allwn ni roi tystysgrifau.
Dim ond dros y ffôn ellir gwneud ceisiadau ar hyn o bryd oherwydd y pandemig. Ffoniwch ni ar 01656 642391 i dalu gyda cherdyn neu anfon e-bost atom ni ar registrar@bridgend.gov.uk
Mae gan Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr nifer o gofrestrau sy’n cofnodi genedigaethau, marwolaethau a phriodasau lleol er 1837.
Efallai y bydd angen copïau o dystysgrifau arnoch am sawl rheswm, megis:
- gwneud cais am basbort
- ceisio cael benthyciad myfyrwyr
- atodi dogfennau at CV
- cyflwyno hawliad yswiriant
- dangos tystiolaeth o brofiant
Ymhlith defnyddiau arall o gofnodion swyddfa mae creu coeden deulu neu ymchwilio i hanes leol. Gall Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr eich helpu gyda hyn ac yn aml bydd yn derbyn ymholiadau o bob cwr o’r byd.
Archebu copïau o dystysgrifau
Bydd angen y dystiolaeth ganlynol arnom:
- enw’r person, ac yn achos priodas, enw’r partner
- dyddiad y digwyddiad
- lleoliad yr enedigaeth neu'r farwolaeth
- mewn achos priodas, enw’r eglwys neu’r lleoliad trwyddedig y cafodd ei gynnal
Cliciwch yma i weld y ffioedd diweddaraf.