Cofrestru genedigaeth
Mae apwyntiadau bellach ar gael yn Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr i rieni nad ydynt wedi gallu cofrestru genedigaeth eu babanod a anwyd yn ystod cyfnod y coronafeirws COVID-19.
Bydd apwyntiadau ar gael yn adeilad newydd Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr yn y Swyddfeydd Dinesig ar Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae modd gwneud apwyntiad drwy ffonio 01656 642391 neu drwy e-bostio registrar@bridgend.gov.uk
Bydd eich bydwraig yn rhoi taflen ‘cofrestru genedigaeth babi’ sy’n egluro lle gallwch gofrestru eich plentyn a pha wybodaeth fydd angen i chi ddod â hi gyda chi.
Rhaid cofrestru genedigaeth eich babi yn yr ardal lle cafodd ei eni. Os cafodd eich babi ei eni yn Ysbyty Tywysoges Cymru neu gartref yn unrhyw le ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, bydd rhaid i chi gofrestru’r enedigaeth yn Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr.
Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr
Llun - Gwener
9.30am - 4pm
Apwyntiad yn unig. Cysylltwch â’r swyddfa gofrestru i wneud apwyntiad.