Ffioedd presennol
Tystysgrifau genedigaeth, marwolaethau a phriodasau
Y ffi ar gyfer genedigaethau, marwolaethau neu briodasau o gofrestriad presennol yw £11 ar ddiwrnod cofrestru, a £35 ar ôl hynny.
Rhaid gwneud ceisiadau am dystysgrif o gofnodion blaenorol ymlaen llaw trwy ffonio 01656 642391
- Gwasanaeth blaenoriaeth: Casgliad o fewn 24 awr neu bost dosbarth 1af wedi’i ddosbarthu o fewn 24 awr: £35
- Gwasanaeth safonol: Bydd pob tystysgrif ar gael i’w chasglu o’r swyddfa gofrestru o fewn 15 diwrnod gwaith: £11
Ceisiadau drwy’r post
Gwasanaeth safonol: £11 y dystysgrif, Anfonir tystysgrifau o fewn 15 diwrnod gwaith.
Ffioedd priodasau a phartneriaethau sifil
- Ffi hysbysiad priodas neu bartneriaeth sifil: £35
- Ffi am seremoni priodas neu bartneriaeth sifil yn y swyddfa gofrestru: £46
- Ffi am briodas neu bartneriaeth sifil mewn lleoliad trwyddedig:
Dydd Llun i Ddydd Gwener: £376
Dydd Sadwrn: £397
Dydd Sul: £451
Gwyliau banc: £504
Dim ond drwy apwyntiad mae modd hysbysu am briodas neu bartneriaeth sifil.