Cydlynu gweithgareddau llesiant cymunedol lleol
Nodau’r rhaglen
Mae gwaith cydlynu cymunedol lleol yn helpu pobl i ddatblygu eu cryfderau. Mae’n lleihau’r angen am fwy o gymorth ffurfiol trwy greu cysylltiadau gyda rhwydweithiau ac adnoddau lleol. Mae hyn yn gwella llesiant a gwydnwch pobl. Mae tystiolaeth wych bod y dull hwn yn gweithio ac yn gostwng y galw am wasanaethau gofal.