Gofalwyr
Gofalwr yw rhywun sy’n gofalu am ac yn cefnogi rhywun na fyddai’n gallu ymdopi heb eu cymorth.
Mae gofalwyr di-dâl sy’n gofalu am deulu, ffrindiau neu gymdogion yn wahanol i weithwyr gofal cyflogedig neu staff a gyflogir gan asiantau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, gwirfoddol neu breifat.
Os hoffech chi gael gwybod mwy am yr wybodaeth, y cyngor a'r cymorth sydd ar gael i chi, cliciwch ar y ddolen yma
Mae gwybodaeth hefyd yn Dewis. Gall ddweud wrthych am:
- eich hawliau cyfreithiol fel gofalwr
- eich hawl i gael asesiad o anghenion gofalwr
- cymorth ariannol a chymorth â budd-daliadau
- dysgu sgiliau newydd i’ch helpu chi yn eich swydd gofalu
- taro cydbwysedd rhwng cyflogaeth a gofalu
- cynllunio ar gyfer achosion brys
Galw eich hun yn ofalwr
Gofalwr di-dâl yw rhywun sy’n helpu person arall i fyw’n annibynnol gartref.
Efallai y bydd y person yr ydych yn gofalu amdano yn fam neu'n dad i chi, yn ŵr neu'n wraig, yn ffrind neu'n bartner, yn frawd neu'n chwaer, yn ferch neu'n fab, neu hyd yn oed yn gymydog hŷn.
Mae rhai gofalwyr yn gofalu am fwy nac un person. Gallent fod yn gofalu am riant hŷn a phlentyn anabl neu bartner gyda chyflwr hirdymor a ffrind.
Nid oes rhaid i chi fod yn byw yn yr un tŷ i fod yn ofalwr i rywun. Efallai eich bod yn galw heibio sawl gwaith y dydd i’w helpu nhw i godi, i gael rhywbeth i fwyta neu i gymryd eu meddyginiaeth. Efallai eich bod yn gofalu am fwy nac un person fel hyn neu efallai eich bod yn helpu rhywun arall i ofalu am un person.
Nid yw gofalwyr yn cael eu talu ac ni ddylid drysu rhyngddyn nhw a gweithwyr gofal (cyflogedig) sy’n aml yn rhan o ofal rhywun.
Peidiwch â bod yn ofalwr ‘cudd’
Mae’n bwysig eich bod yn nodi eich hun fel gofalwr oherwydd mae’r statws yn rhoi hawliau cyfreithiol ychwanegol i chi a fydd o gymorth i chi o ran cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch.
Dywedwch wrth eich meddyg teulu a’ch cyflogwr eich bod yn ofalwr. Mae’n bwysig mewn argyfwng.
Yr hawl i gefnogi
Ni fyddai unrhyw un yn disgwyl i chi gyflawni’ch cyfrifoldebau gofalu heb unrhyw gymorth.
Gall gofalu am rywun fod yn werth chweil. Gall hefyd fod yn waith caled ac yn llafurus, yn enwedig os oes angen gofal parhaus ar y person sy’n derbyn gofal, oherwydd demensia, anabledd corfforol neu ddysgu, cyflwr iechyd meddwl neu gyflwr hirdymor.
Os ydyn ni'n gwybod eich bod chi'n gofalu am rywun, mae gennym ddyletswydd i gynnig asesiad o anghenion gofalwr am ddim i chi er mwyn canfod a ydych yn gallu ac yn fodlon parhau â'ch rôl ofalu a chanfod pa gefnogaeth sydd ei hangen arnoch.
Nid yw gofalu am rywun yn beth hawdd, ac mae’n bwysig eich bod chi’n ceisio cymorth cyn bod argyfwng.