Haf o Hwyl 2022
O gadw’n heini i adael eich dychymyg yn rhydd, mae llawer o hwyl yn aros am eich plant ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae eich haf poeth o weithgareddau gwerth chweil yn dechrau yma!
Gyda chyfyngiadau presennol Covid ar weithgareddau, mae gan lawer o’r sesiynau gapasiti cyfyngedig – felly cofiwch archebu yn gynnar i sicrhau eich lle.
Rydym hefyd wedi gweithio ochr yn ochr â Chymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr i gefnogi ystod eang o grwpiau a sefydliadau cymunedol i ddatblygu cyfleoedd i blant a phobl ifanc 12 oed a hŷn. Bydd y grwpiau a sefydliadau yn trefnu ac yn hyrwyddo’r hyn sydd ar gael i’w haelodau a’r cyhoedd. Mae amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys cyfleoedd chwaraeon, creadigol, amgylcheddol ac ieuenctid ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Cyfle i archwilio gweithgareddau hwyliog yr haf ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr isod.