Cynlluniau Heini am Oes
Cyfle i ddarganfod sesiynau hwyliog i blant 8 i 11 oed mewn lleoliadau ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Bydd plant sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael cyfle i fwynhau llond gwlad o hwyl am ddim fel rhan o gynlluniau Actif Am Oes yr haf yma mewn nifer o leoliadau diogel. Yn addas i blant rhwng 8 ac 11 oed, bydd y sesiynau hwyliog ac amrywiol yn canolbwyntio ar chwaraeon, gemau, a gweithgareddau celf a chreadigol.
Yn cael eu cyflwyno gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a’u cefnogi gan gynghorau tref, byddant yn cael eu gweithredu am 4 wythnos rhwng dydd Mawrth 27 Gorffennaf a dydd Gwener 20 Awst. Bydd y sesiynau’n cael eu rhannu yn ddau sesiwn y dydd er mwyn rheoli’r niferoedd.
Bydd angen i rieni fynychu diwrnod cofrestru ar y safle ddydd Llun 26 Gorffennaf a bryd hynny gellir egluro’r trefniadau a chofrestru plant yn swyddogol. Bydd y cofrestru rhwng 2pm a 6pm.
Llenwch y ffurflen gofrestru Active 4 Life a dewch â hi ar ddiwrnod y sesiwn os gwelwch yn dda.
Lleoliadau Actif am Oes | Dyddiadau’r sesiwn | Amserau’r sesiwn |
---|---|---|
Canolfan Chwaraeon Bracla (gyda chefnogaeth Cyngor Cymuned Bracla) |
Dyddiau’r wythnos 27 Gorffennaf i 20 Awst (ac eithrio'r isod) |
10am i 12pm neu 12.30pm i 2.30pm |
Canolfan Chwaraeon Bracla (gyda chefnogaeth Cyngor Cymuned Bracla) |
Dydd Mercher 28 a Dydd Gwener 30 Gorffennaf |
12.30pm i 2pm neu 2.30pm i 4pm |
Canolfan Gymunedol Caerau (gyda chefnogaeth Cyngor Tref Maesteg) |
Dyddiau’r wythnos 27 Gorffennaf i 20 Awst |
10am i 2pm neu 12.30pm i 2.30pm |
Ysgol Gyfun Pencoed (gyda chefnogaeth Cyngor Tref Pencoed) |
Dyddiau’r wythnos 27 Gorffennaf i 20 Awst |
10am i 12pm neu 12.30pm i 2.30pm |
Ysgol Gyfun Porthcawl (gyda chefnogaeth Cyngor Tref Porthcawl) | Dyddiau’r wythnos 27 Gorffennaf i 20 Awst |
10am i 12pm neu 12.30pm i 2.30pm |
Mae Halo Leisure yn rheoli'r rhaglenni a restrir isod ac mae manylion am ddyddiadau, amseroedd a threfniadau archebu i'w gweld ar wefan Halo. Bydd angen i blant sy'n mynychu rhaglenni Halo fod wedi cofrestru gyda Halo yn uniongyrchol. Bydd pob ymholiad ynglŷn â'r rhaglenni hyn yn uniongyrchol i Halo.
Canolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr |
Cefnogir gan Halo a Chyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr |
Canolfan Chwaraeon Maesteg |
Cefnogir gan Halo a Chyngor Tref Maesteg |
Canolfan Bywyd Cwm Ogwr |
Cefnogir gan Halo a Chymuned Cwm Ogwr |
Canolfan Bywyd Cwm Garw |
Cefnogir gan Halo a Chymuned Cwm Garw |
Sylwch nad yw’r sesiynau hyn yn opsiwn arall i ofal plant, a rhaid i rieni a gofalwr fod ar gael i gasglu eu plant ar bob adeg. Ni fydd modd i blant ddefnyddio eu ffonau symudol yn ystod y sesiynau.
Pe bai angen gwneud gwaith cynnal a chadw ar safleoedd ysgolion efallai y bydd angen addasu rhaglenni.