Rhaglen iechyd a gofal cymdeithasol Bae’r Gorllewin
Sefydliadau partner
Mae Rhaglen Iechyd a Gofal Cymdeithasol Bae’r Gorllewin yn cael ei rhedeg gan bartneriaeth sy’n cynnwys:
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
- Dinas a Sir Abertawe
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
- partneriaid annibynnol a thrydydd sector
Mae Rhaglen Iechyd a Gofal Cymdeithasol Bae’r Gorllewin yn gwasanaethu:
- Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
- Dinas a Sir Abertawe
- Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
Gwasanaethau
Mae ffrydiau gwaith Haen 1 Bae’r Gorllewin yn cynnwys y canlynol:
- gwasanaethau cymdeithasol
- System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru
- contractio a chaffael
Mae projectau Haen 2 y rhaglen yn cynnwys:
- Gwasanaethau Mabwysiadu Rhanbarthol Bae’r Gorllewin
- Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu
- Bwrdd Rhanbarthol Diogelu Plant
- Bwrdd Rhanbarthol Diogelu Oedolion
Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Bae'r Gorllewin
Mae Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Bae'r Gorllewin yn un o’r saith o fyrddau rhanbarthol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’n datblygu trefniadau cydweithio rhwng y bwrdd iechyd a’r tri awdurdod lleol, partneriaid annibynnol a thrydydd sector, a chynrychiolwyr defnyddwyr a gofalwyr.
Er bod fforwm tebyg ar waith ers 2014, cafodd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Bae'r Gorllewin ei sefydlu'n ffurfiol ym mis Tachwedd 2016. Mae’r bwrdd yn cyfarfod bob chwarter. Gweld cofnodion y Bwrdd yma.
Gweld Adroddiad Asesiad Poblogaeth Bae'r Gorllewin
Mae’n rhaid i bartneriaid Bae'r Gorllewin gasglu gwybodaeth am anghenion gofal y boblogaeth. Caiff hyn ei grynhoi yn yr ‘Adroddiad ar yr Asesiad o’r Boblogaeth' isod, y gellir ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau gwell mewn cysylltiad â gofal a chymorth.
Cynhelir asesiadau o’r boblogaeth bob pedair blynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cânt eu hadnewyddu, a gall partneriaid ddiweddaru gwybodaeth i sicrhau bod trefniadau monitro effeithiol ar waith.
Cynnwys yr Adroddiad ar yr Asesiad o’r Boblogaeth
Yn benodol, mae’r Adroddiad yn cynnwys:
- ystod a lefel y gwasanaethau sydd eu hangen i ddiwallu anghenion gofal a chymorth lleol
- bylchau yn y ddarpariaeth, a sut i’w bodloni
- newidiadau y mae eu hangen i wella gwasanaethau yn y dyfodol
Mae’r adroddiad hefyd yn ystyried anghenion gofal gofalwyr, yn ogystal ag ystod a lefel gwasanaethau ataliol y rhanbarth.
Defnyddir canfyddiadau’r Asesiad o’r Boblogaeth i lywio Cynllun Ardal Bae'r Gorllewin.
Adroddiad Blynyddol Bae'r Gorllewin