Cymryd Rhan
Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o helpu'ch cymuned leol. Ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ceir llawer o grwpiau gwirfoddol. Mae'r rhain o bob lliw a llun ac yn gweithredu ar gyfer amrywiaeth eang o ddibenion.
Mae cymryd rhan mewn gwirfoddoli yn yr awyr agored yn ffordd wych o gysylltu â phobl, bod yn egnïol a gwella eich lles corfforol a meddyliol
Mae gwirfoddoli yn rhywbeth wnes i addo i mi fy hun y byddwn yn ei wneud ers blynyddoedd. Roeddwn i wedi casglu sbwriel o bryd i'w gilydd ond roeddwn i'n meddwl y byddai'n dda gwneud pethau gwahanol. Fe gymerodd ychydig o amser ond o'r diwedd fe wnes i ymuno a dydw i heb edrych nôl.
Mae boddhad i’w gael o weld y gwaith rydyn ni wedi'i wneud ac wrth wneud gwahaniaeth i'r amgylchedd lleol. Rydyn ni'n glanhau afonydd, cael gwared ar fieri, cribinio gwair a mwy. Rydych chi'n dechrau dysgu a deall y byd naturiol hefyd.
Mae'r ochr gymdeithasol yn wych hefyd, gan wneud ffrindiau newydd a llawer iawn o de a chacennau. Mae bod allan yn y coed a'r aer yn fy mharatoi i ar gyfer yr wythnos. Ar ôl 8 mlynedd rydw i wrth fy modd o hyd, ac rydw i bellach wedi sefydlu fy ngrŵp lleol fy hun!
Mae Rachel yn wirfoddolwr gyda Grŵp Gwirfoddolwyr Parc Bryngarw
Gwirfoddoli yn yr awyr agored
Mae llawer o gyfleoedd i bobl wirfoddoli yn yr awyr agored yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr. Gallwch wirfoddoli am unrhyw hyd o amser; mae pob help yn ddefnyddiol ac yn cael ei werthfawrogi. Mae'n ffordd wych o gysylltu â phobl, bod yn egnïol a gwella'ch lles corfforol a meddyliol, wrth helpu'r amgylchedd ar yr un pryd.
Mae Rhwydwaith Gwyrdd Pen-y-bont ar Ogwr yn dod â phobl sydd â diddordeb mewn helpu i warchod bywyd gwyllt a mannau gwyrdd ar draws y fwrdeistref at ei gilydd. Ewch i'r dudalen Facebook i gael gwybod am grwpiau a chyfleoedd gwirfoddol. Tudalen Facebook Rhwydwaith Gwyrdd Pen-y-bont ar Ogwr
Dyma rai o'r cyfleoedd gwirfoddoli awyr agored sydd ar gael ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:
Cofrestru i fod yn Llysgennad Coed a helpu i ofalu am eich coed lleol
Gwirfoddoli gyda phrosiect gwyrdd mewn parc gwledig neu warchodfa natur.
Mae prosiect Cysylltiadau Gwyrdd Pen-y-bont ar Ogwr yn helpu i gysylltu cymunedau a mannau gwyrdd lleol er budd pobl a phlanhigion. Gallwch chi gymryd rhan a darganfod pam mae mannau gwyrdd yn llefydd mor arbennig i fywyd gwyllt, planhigion a phobl. Dilynwch Cysylltiadau Gwyrdd ar Facebook.
Mae Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli ledled cymoedd De Cymru.
Mae Groundwork Cymru yn gweithio ledled de a chanolbarth Cymru i greu cymunedau cryfach ac iachach.
Mae Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru yn cynnal gweithgorau yng Ngwarchodfa Natur Parc Slip.
Mae Grŵp Dolydd Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot yn grŵp sydd wedi’i sefydlu i helpu i gefnogi perchnogion tir lleol gyda chadwraeth, adfer a gwella glaswelltiroedd a dolydd o flodau gwyllt.
Mae Creu Atgofion Cysylltiadau Gwyrdd a Thwyni Deinamig Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio gyda'i gilydd i ddathlu straeon am ein harfordir gwych. Maen nhw eisiau clywed gan bawb - os oes gennych chi atgof plentyndod rhyfeddol o'r dyddiau a dreuliwyd yn y twyni, neu rai lluniau arfordirol rydych chi'n falch ohonyn nhw, maen nhw eisiau darllen, gweld a chlywed.
Ceir grwpiau Glanhau Cymunedol Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae Wardeiniaid Coetir Tremain yn grŵp cymunedol gwirfoddol sy'n gweithio gyda thîm bioamrywiaeth CBSP i reoli GNL Coetir Tremain.
Iechyd, diogelwch a lles
Mae'n bwysig iawn sicrhau eich bod yn gofalu am eich iechyd a'ch lles wrth wirfoddoli.
Sut i gynnal iechyd a hylendid wrth wirfoddoli yn yr awyr agored. Mae ein canllaw ‘sut i’ yn darparu rhai awgrymiadau defnyddiol ar sut i gynnal iechyd a hylendid wrth wirfoddoli yn yr awyr agored.
Mae gan Ambiwlans Sant Ioan gyngor gwych am gymorth cyntaf.
Mae AdventureSmart yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am fod yn ddiogel yn yr awyr agored.
Wrth weithio yng nghefn gwlad, mae'n bwysig dilyn y Cod Cefn Gwlad
Wrth weithio o amgylch dŵr, mae'n bwysig bod yn ofalus ac yn ddiogel iawn. Dilynwch y Cod Glan y Dŵr a chael cyngor gan yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd am ddiogelwch dŵr.
Mae asesiadau risg yn gam pwysig i reoli risg a gweithio i gynnal iechyd a hylendid gwirfoddolwyr. Edrychwch ar yr adnoddau hyn gan Cadwch Gymru’n Daclus a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch i gael gwybod mwy am gynnal asesiadau risg.
Gall elusennau lleol ddarparu cefnogaeth i bobl sydd eisiau gwirfoddoli yn y gymuned a allai fod angen cymorth ychwanegol er mwyn gwirfoddoli, e.e. Mental Health Matters.
Gall grwpiau gwirfoddol ddisgwyl bod pobl yn mynychu sesiynau gwirfoddoli nid yn unig am fod ganddyn nhw ddiddordeb yn y pwnc ond hefyd oherwydd ei fod yn rhan o adferiad yn y gymuned. Mae WACDA yn sefydliad sy’n cefnogi pobl fel hyn, ymhlith ffyrdd eraill.
Sefydlu grŵp gwirfoddoli
Efallai eich bod wedi sylwi nad oes grŵp gwirfoddoli yn eich ardal leol a bod gennych ddiddordeb mewn sefydlu un i helpu i reoli eich man gwyrdd lleol. Gall fod yn hawdd iawn helpu i sefydlu grŵp gwirfoddoli.
Edrychwch ar yr adnoddau hyn i gael gwybod mwy am sefydlu grŵp gwirfoddoli:
Mae Cymdeithas Pen-y-bont ar Ogwr o Sefydliadau Gwirfoddol (BAVO) yn helpu i gefnogi, annog a hybu datblygiad y sector gwirfoddol a chymunedol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Pwrpas y WCVA yw galluogi sefydliadau gwirfoddol yng Nghymru i wneud mwy o wahaniaeth gyda’i gilydd.
Mae Cefnogaeth y Trydydd Sector Cymru yn gweithio i ddatblygu dinasyddion cyfranogol a gweithredol drwy alluogi mwy o bobl i elwa o wirfoddoli.
Mae Info Engine yn gyfeirlyfr o wasanaethau’r trydydd sector yng Nghymru.
Cadwch Gymru’n Daclus – mwy o wybodaeth am yswiriant i grwpiau cymunedol.
Casglu sbwriel
Efallai na fyddwch yn gallu ymrwymo i ymuno â grŵp, ond gallwch wneud gwahaniaeth o hyd yn eich ardal leol. Mae casglu sbwriel yn ffordd wych i un person wneud gwahaniaeth mawr wrth helpu i gadw ein mannau gwyrdd yn llefydd iach ar gyfer bywyd gwyllt.
- Gallwch gofrestru i fod yn Hyrwyddwr Sbwriel Cadwch Gymru’n Daclus
- Beth am gymryd rhan mewn Sesiwn Glanhau Traeth 2 Funud y tro nesaf rydych chi ar lan y môr?
Weithiau bydd gormod o sbwriel i un person ei gasglu. Drwy roi gwybod am daflu sbwriel yn anghyfreithlon, gallwch chi helpu i gadw ein mannau gwyrdd yn lân ac yn daclus i bawb eu mwynhau.
Gwyddoniaeth y dinesydd
Dim ond drwy fynd am dro a chofnodi'r pethau rydych chi'n eu gweld, gallwch chi helpu gwyddonwyr i fonitro cynefinoedd Pen-y-bont ar Ogwr a gweld sut maen nhw'n newid. Gelwir y math yma o ymchwil yn wyddoniaeth y dinesydd.
Chwilio am bwnc ymchwil sydd o ddiddordeb i chi:
Mae’r Cynllun Monitro Planhigion Cenedlaethol yn gynllun monitro planhigion seiliedig ar gynefinoedd sy’n cael ei weithredu ledled y wlad. Mae data’n cael eu casglu er mwyn rhoi syniad o’r newidiadau yn nifer y planhigion a’u hamrywiaeth ac maent yn helpu i asesu cyflwr ein cynefinoedd.
Mae Every Flower Counts yn arolwg blynyddol o lawntiau'r DU. Ond pam mae arnom ni angen yr arolwg yma? Yn syml iawn, mae angen peillwyr ar blanhigion ac mae angen planhigion ar beillwyr. Fodd bynnag, rydyn ni’n gwybod bod y ddau’n dirywio'n sydyn. Mae Every Flower Counts angen i chi helpu i arolygu a chyfrannu at ddata a fydd yn rhoi syniad o’r newidiadau yn nifer y planhigion.
Arolwg Briallu Mair Gall Briallu Mair ein helpu ni i ddeall ansawdd a graddfa’r glaswelltir mewn ardal.
Mae WaxcApp yn helpu i fonitro ffyngau glaswelltir o amgylch Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Rhwng diwedd yr haf a dechrau'r gaeaf mae un o arddangosfeydd mwyaf lliwgar byd natur yn aros i gael ei darganfod. Gellir dod o hyd i gyrff ffrwytho lliwgar, tebyg i emau, ffyngau’r glaswelltir yn sbecian drwy'r tyweirch ar draws ein cefn gwlad, mewn dinasoedd a hyd yn oed yn rhai o'n gerddi.
Yn anffodus, mae'r safleoedd hyn yn cael eu hanwybyddu yn aml ac, mewn sawl achos, maent mewn perygl o gael eu colli. Ond drwy gymryd rhan mewn arolwg byr gallwch chi helpu i ddarganfod ble maen nhw a deall yn well y mathau o lefydd mae'r ffyngau lliwgar yma’n debygol o ymddangos.
Twyni Deinamig Drwy adnabod a chofnodi rhywogaethau o blanhigion, gallwch helpu gwyddonwyr a chadwraethwyr i amddiffyn ac adfer cynefinoedd twyni tywod bioamrywiol yng Nghymru gan ddefnyddio ap.
Gydag amrywiaeth hyfryd o gynefinoedd, mae twyni tywod arfordirol yn gartref i fywyd gwyllt rhyfeddol - gan gynnwys glöynnod byw, madfallod, llyffantod a thegeirianau. Byddwch yn helpu ymchwilwyr i gasglu data hanfodol am gynefinoedd a rhywogaethau’r twyni tywod i helpu i wella’r ddealltwriaeth o'r hyn sy'n digwydd mewn amgylcheddau twyni tywod arfordirol, ac i helpu i wella'r gwaith cadwraeth sy'n cael ei wneud.
Birdwatch y Gerddi gan yr RSPB Cyfle i gymryd rhan yn arolwg adar yr ardd mwyaf y wlad sy’n cael ei gynnal bob blwyddyn ym mis Ionawr.
Big Butterfly Count Helpwch i gymryd pwls byd natur drwy ymuno â’r big butterfly count, sy’n cael ei gynnal bob blwyddyn yn ystod yr haf.
Mae Moth Night yn ddathliad o’r gwyfynod sydd i’w gweld ym Mhrydain.
Rhandiroedd
Mae rhandiroedd yn wych ar gyfer cysylltu â natur a gwella eich lles corfforol a meddyliol. Chwiliwch ble mae eich rhandir agosaf.