Dweud eich dweud ar ofal plant, y cynnig i Gymru
Mae’r Ddarpariaeth Gofal Plant ar gyfer Cymru yn darparu hyd at 30 awr yr wythnos o ofal plant yn cael ei gyllido gan y Llywodraeth ac addysg gynnar ar gyfer rhieni cymwys sy’n gweithio ac sydd â phlant tair i bedair oed, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn prosesu pob cais ar gyfer y Ddarpariaeth Gofal Plant ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru, bydd y tîm yn derbyn ceisiadau fesul cam er mwyn sicrhau bod y rhieni sydd heb allu derbyn eu lle eto oherwydd y gohirio yn cael blaenoriaeth.
Cyswllt
Tîm Darpariaeth Gofal Plant Pen-y-bont ar Ogwr
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
E-bost:
childcareoffer@bridgend.gov.uk
Ffôn:
01656 642649