Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwybodaeth i rieni

Mae’r Ddarpariaeth Gofal Plant ar gyfer Cymru yn darparu hyd at 30 awr yr wythnos o ofal plant yn cael ei gyllido gan y Llywodraeth ac addysg gynnar ar gyfer rhieni cymwys sy’n gweithio ac sydd â phlant tair i bedair oed, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.

Gwybodaeth bwysig

Rydyn ni’n un o’r ychydig awdurdodau lleol yng Nghymru sy’n cynnig Dosbarth Meithrin y Cyfnod Sylfaen mewn Ysgolion ar gyfer plant tair oed.   

Ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae addysg feithrin lawn amser yn cael ei chynnig i blant tair oed mewn ysgolion.

Nid yw rhieni’n gymwys mwyach am y Ddarpariaeth Gofal Plant yn ystod y tymor ysgol pan mae eu plentyn tair oed yn cael cynnig lle llawn amser yn yr ysgol. Fodd bynnag, gallant barhau i ddefnyddio naw wythnos o ofal plant yn ystod y gwyliau.

Pan mae plentyn tair oed yn dechrau yn yr ysgol yn llawn amser, ni ellir defnyddio’r Ddarpariaeth Gofal Plant mewn meithrinfa breifat yn lle darpariaeth feithrin y Cyfnod Sylfaen yn llawn amser yn yr ysgol. Mae hyn yn berthnasol o hyd os ydych chi’n penderfynu yn erbyn gwneud cais am le mewn ysgol neu’n gwrthod lle mewn ysgol.         

Mae’r ddarpariaeth yn gyfuniad o’r ddarpariaeth Dosbarth Meithrin y Cyfnod Sylfaen gyfredol ar gyfer plant tair a phedair oed, a gofal plant ychwanegol wedi’i gyllido sy’n cynnwys gwarchodwyr plant. Mae’r ddarpariaeth yn ymestyn i oriau ar ôl ysgol, penwythnosau a gwyliau ysgol.

Cymhwysedd am y ddarpariaeth

I fod yn gymwys am y Ddarpariaeth Gofal Plant, rhaid i chi fodloni’r canlynol:

  • Byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr  
  • Oes gennych chi blentyn cymwys? Edrychwch ar y tabl isod.
  • Ennill cyflog wythnosol cyfartalog sy’n cyfateb i, neu ddim mwy nag, 16 awr ar gyfradd yr isafswm cyflog cenedlaethol neu’r cyflog byw cenedlaethol, ond yn llai na £100,000 y flwyddyn. 

Os ydych chi’n deulu rhiant sengl, rhaid i chi fod yn gweithio, ac os ydych chi’n deulu dau riant, mae’n rhaid i chi’ch dau fod yn gweithio.

Os ydych chi’n hunangyflogedig neu ar gontract oriau sero, rhaid i chi allu profi hyn drwy ddarparu’r dogfennau perthnasol. Mae’r ddarpariaeth hon ar gael yn ystod absenoldeb mamolaeth ac i bawb â salwch tymor hir. 

Sut mae’r ddarpariaeth yn gweithio

Mae dyddiadau agor y ddarpariaeth Gofal Plant wedi’u rhestru isod.  

Dyddiadau ymgeisio pwysig           

Efallai y bydd dyddiadau dechrau ysgolion yn amrywio ym mis Medi o ganlyniad i Covid-19. Sylwer nad oes posib defnyddio Darpariaeth Gofal Plant eich plentyn tan ddyddiad dechrau eich plentyn yn yr ysgol.

Os byddwch yn gwneud cais yn rhy gynnar, bydd eich cais yn cael ei wrthod yn awtomatig. Gwnewch gais unwaith mae’r dyddiad agor perthnasol ar gyfer ceisiadau wedi bod.

Dyddiadau ar gyfer y ddarpariaeth gofal plant
Dyddiad geni Cymwys o: Cymwys tan: Ceisiadau yn agor:

Medi 2018 – 31 Rhagfyr 2018

Ionawr 2022

31 Awst 2023

15 Tachwedd 2021

Ionawr 2019 – 31 Mawrth 2019

25 Ebrill 2022

31 Awst 2023

14 Mawrth 2022

Ebrill 2019 – 31 Awst 2019

5 Medi 2022

31 Awst 2023

Gorffennaf 2022

Medi 2019 – 31 Rhagfyr 2019 Ionawr 2023 31 Awst 2024 28 Tachwedd 2022

 

Sut i wneud cais

I wneud cais rhaid i chi lenwi ffurflen gais ar-lein.                

Peidiwch â gwneud cais cyn y dyddiad agor ar gyfer ymgeisio. 

Cyn gwneud cais

Cyn dechrau eich cais, dilynwch y camau isod:  

Cam 1

Holwch y darparw(y)r gofal plant o’ch dewis i sicrhau ei fod wedi cofrestru i fod yn ddarparwr y Ddarpariaeth Gofal Plant ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Cam 2

Gan nad oes modd cadw’r ffurflen gofrestru yma, gwnewch yn siŵr bod gennych chi’r wybodaeth ganlynol cyn i chi ddechrau a bod y dogfennau i gyd yn cael eu cadw fel naill ai PDF neu fel ffeil llun cyn dechrau gwneud y cais. 

  • sganiwch/tynnwch ffotograff o dystysgrif geni eich plentyn.         
  • sganiwch//tynnwch ffotograff o slipiau cyflog y rhiant am y tri mis diwethaf.
  • Sganiwch/tynnwch lun o dystiolaeth o breswyliaeth, er enghraifft, datganiad treth gyngor mwyaf diweddar, neu fil cyfleustodau mwyaf diweddar (nwy/dŵr/trydan). 
  • trefnu oriau a dyddiau’r darparwr gofal plant.
  • manylion cyswllt cyflogwr, gan gynnwys: Cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost.  
  • sganiwch/tynnwch ffotograff o unrhyw lythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau neu lythyr gan gyflogwr cyfredol a fyddai’n cymhwyso rhieni am y Ddarpariaeth Gofal Plant os nad ydynt mewn gwaith ar hyn o bryd.

Cam 3

Llenwch y ffurflen gais ar-lein isod.

Cyswllt

Tîm Darpariaeth Gofal Plant Pen-y-bont ar Ogwr

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 642649

Chwilio A i Y