Plant maeth ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Maethu gyda ni
Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr yw’r enw newydd ar wasanaeth maethu eich Awdurdod Lleol.
Rydym yn rhan o’r rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru ac yn cydweithio er mwyn adeiladu gwell dyfodol i blant lleol. Tîm Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr yw eich darparwr maethu lleol a’ch rhwydwaith cefnogi. Nid gwasanaeth maethu arferol mohonom; rydym yn llawer mwy cysylltiedig.
Fel sefydliad nid er elw, rydym wedi ymrwymo i weithio fel tîm gyda gofalwyr maeth er mwyn helpu i adeiladu dyfodol disglair ar gyfer plant ardal Pen-y-bont ar Ogwr. Rydym yn eu helpu i aros yn eu cynefinoedd cyfarwydd, lle sy’n iawn iddyn nhw.
Er mwyn dod i wybod mwy am faethu yn Ynys Môn, ymweld â’ch gwefan Maethu Cymru leol.
Darllen ein datganiad o bwrpas.