Dechrau’n Deg
Mae Dechrau’n Deg yn rhoi cymorth a chefnogaeth am ddim i blant dan bedair oed mewn ardaloedd penodol. Ei nod yw gwella eu cyfleoedd a rhoi dechrau teg iddynt pan fyddant yn mynd i’r ysgol. Caiff ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r gefnogaeth yn cynnig:
- gofal plant rhan amser o ansawdd uchel i blant rhwng 2 a 3 oed
- ymwelydd iechyd i helpu gydag unrhyw broblemau sydd gennych
- mynediad at gymorth rhianta
- cymorth gyda datblygu ieithyddol cynnar
Mae Dechrau'n Deg yn gweithredu mewn rhannau penodol o Fetws, Melin Ifan Ddu, Bracla, Cefn Glas, Caerau, Corneli, Lewistown, Parc Maesteg, Ystâd Oakwood, Plasnewydd, Sarn a Melin Wyllt.
Manylion cyswllt
I gael gwybod a ydych yn gymwys i fod yn rhan o’r rhaglen Dechrau’n Deg, cysylltwch â:
Cyswllt
Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf drwy ymweld â thudalen Facebook Dechrau'n Deg Pen-y-bont ar Ogwr.
Dolenni perthynol
Cewch fwy o wybodaeth am y rhaglen Dechrau’n Deg ar wefan Llywodraeth Cymru.
Efallai byddwch yn ei weld yn ddefnyddiol i chwilio ar wefan Dewis i gael manylion am wasanaethau, gan gynnwys gofal plant a gweithgareddau i blant.