Cofrestr tai cyffredin
Mae pedair prif gymdeithas dai Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn defnyddio un gofrestr dai i ddyrannu tai cymdeithasol. Gelwir y gofrestr hon yn Gofrestr Tai Cyffredin Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae gennym bolisi hefyd o’r enw Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol sy’n esbonio sut mae tai cymdeithasol a rentir yn cael eu dyrannu.
Gwneud cais i fod ar y gofrestr tai cyffredin
I wneud cais i fod ar y gofrestr tai cyffredin, bydd angen i chi gael cyfweliad, naill ai’n wyneb yn wyneb neu dros y ffôn.
Gall unrhyw un wneud cais am dai cymdeithasol a rentir, ond mae’n rhaid i chi fod ag angen tŷ er mwyn cael eich ychwanegu at y gofrestr. Ceir manylion am yr hyn sy’n cael ei ystyried yn angen tŷ yn y Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol, ar dudalennau chwech a saith.
Os nad ydych yn cael eich ychwanegu at y gofrestr tai cyffredin, byddwn yn eich cynghori ynglŷn â pha opsiynau tai eraill allai fod ar gael i chi.
Cyswllt
Amserau aros
Yn aml mae pobl yn synnu ar brinder y tai sydd ar gael gan gymdeithasau tai i’w gosod, a pha mor hir yw’r rhestr aros. Os oes gennych ddiddordeb mewn tai cymdeithasol, gallwch ddefnyddio’r gyfrifiannell amser aros i gyfrifo pa mor hir y gallai fod.
Gall y gyfrifiannell amser aros roi gwybod i chi am y canlynol:
- lleoliad eiddo’r gymdeithas dai
- nifer yr eiddo a ddyrennir mewn gwahanol ardaloedd o’r fwrdeistref sirol
- nifer y bobl sy’n aros i gael tŷ yn yr ardal honno
- amser aros amcangyfrifol
Yn anffodus ni allwn gynnig cartref i bawb trwy’r gofrestr tai cyffredin. Mae prinder tai cymdeithasol ac mae’n rhaid i ni eu dyrannu yn ôl yr angen.
Opsiynau eraill
Mae llawer o opsiynau eraill os ydych yn edrych am dai fforddiadwy. Gallwch roi cynnig ar:
- rentu yn y sector preifat
- cartrefi fforddiadwy ar werth
- cyfnewid eich cartref os ydych eisoes yn denant gyda’r cyngor neu gymdeithas dai
- chwilio mewn ardaloedd eraill
Cyfnewid eich cartref
Os ydych yn denant gyda’r cyngor neu gymdeithas dai ar hyn o bryd a hoffech chi symud, gallwch wneud cais am drosglwyddo neu gyfnewid ar y cyd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn defnyddio’r gwasanaeth cyfnewid ar y cyd cenedlaethol a ddarperir gan Homeswapper. Ceir mwy o wybodaeth ar wefan Homeswapper.