Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cymunedau Carbon Isel

Mae Cymunedau Carbon Isel yn fenter a lansiwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i rymuso cymunedau lleol i gynhyrchu a rhannu trydan adnewyddadwy ymysg aelwydydd sy’n cymryd rhan, wrth helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Mae’r cyngor yn datblygu prosiect arddangos arloesol sy’n archwilio sut i sefydlu cymunedau carbon isel a chreu marchnadoedd ynni lleol sy’n masnachu mewn ynni adnewyddadwy sy’n cael ei gynhyrchu a’i ddefnyddio’n lleol er budd trigolion lleol.

Cynllun Pwmp Gwres

Nod y prosiect yw arddangos sut mae modd trawsnewid eich eiddo i fod yn gartref eco-gyfeillgar, cost isel, cyfforddus, gan ddefnyddio’r systemau gwres diweddaraf.

Marchnad Ynni Leol De Corneli

Mae De Corneli wedi’i dewis fel safle’r arddangosiad Cymunedau Carbon Isel cyntaf. Mae perchnogion tai’r pentref yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn y cynllun peilot.

Chwilio A i Y