Gostyngiad Nam Meddyliol Difrifol
Os bydd oedolyn sy'n aelod o'r cartref yn cael diagnosis o nam meddyliol difrifol, yn dibynnu ar nifer yr oedolion yn yr eiddo, efallai y byddwch yn gymwys i gael gostyngiad yn eich treth gyngor.
I fod yn gymwys rhaid darparu'r wybodaeth ganlynol
- Ffurflen gais wedi'i llenwi ac wedi'i llofnodi gan y meddyg
- Tystiolaeth o dderbyniad neu hawl i'r budd-daliadau cymwys.
Maint y gostyngiad
Bydd hyn yn dibynnu ar nifer yr oedolion sy'n byw yn yr eiddo a gallai amrywio o 0% i 100%
I wneud cais am ostyngiad i'ch treth gyngor oherwydd bod gan oedolyn sy'n aelod o'r teulu nam meddyliol difrifol, edrychwch ar ffurflen Llywodraeth Cymru a llenwch gais.