Gwybodaeth ar y Dreth Gyngor
Mae awdurdodau lleol yn pennu’r dreth gyngor i fodloni eu gofynion cyllidebol. Ceir elfen eiddo ac elfen bersonol.
Mae’r gydran eiddo'n seiliedig ar y band prisio y rhoddir iddi gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Mae’r elfen bersonol yn ystyried nifer y bobl sy’n byw yn yr eiddo ac mae’n seiliedig ar y ffaith bod o leiaf ddau berson yn byw yn yr eiddo.
Mae tua 18 y cant o incwm cyfan y Cyngor yn cael ei gasglu trwy’r dreth gyngor ac mae'n cael ei ddefnyddio er mwyn darparu gwasanaethau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Ceir y 82 y cant sy’n weddill gan grantiau llywodraeth.
Mae’r Cyngor yn casglu treth gyngor ar gyfer pob eiddo, sy'n cynnwys tair elfen: tâl Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y tâl Cyngor Cymuned a thâl Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru.
Cyswllt
Gwasanaeth Cwsmeriaid
Dydd Gwener: 8:30am tan 4:30pm.
Croesewir galwadau yn Gymraeg.