Y Tywysog Philip, Dug Caeredin
1921 - 2021
Dywedodd maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Kenneth Watts: "Gyda thristwch mawr yw clywed am farwolaeth y Tywysog Philip y bore yma.
"Ar ran pobl Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, rydym yn anfon ein cydymdeimlad o'r galon at Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II a'r teulu Brenhinol.
"Drwy gydol ei oes, gwasanaethodd Dug Caeredin y goron gydag ymroddiad anhunanol a gwir haelioni, ac mae wedi gadael gwaddol parhaus yn y sawl sefydliad a gefnogodd fel Noddwr a Llywydd."
Bydd y fflagiau ar yr adeilad dinesig yn cael eu hanner gostwng fel arwydd o barch a bydd cyhoeddiadau pellach yn dilyn.
I anfon neges o gydymdeimlad ar-lein, ewch i wefan y Teulu Brenhinol
Am wybodaeth bellach ewch i wefan Gwefan Llywodraeth y DU a wefan Gwefan Llywodraeth Cymru