Derbyn i ysgolion
Mae gennym ni ddyletswydd statudol i, lle y bo modd, addysgu pob plentyn yn yr ysgol y mae ei rieni neu ei ofalwyr wedi ei dewis.
Yn y rhan helaethaf o achosion, mae rhieni'n hapus i ddewis yr ysgol y maen nhw yn ei dalgylch. Serch hynny, mae’n ofynnol yn gyfreithiol i’r ysgol honno gael ei dewis a’i henwi ar y ffurflen ‘Derbyn i Ysgol’ ac i’r ffurflen honno gael ei dychwelyd erbyn y dyddiad cau. Nid oes sicrwydd y bydd lle ar gael mewn ysgol benodol, hyd yn oed os ydych chi'n byw yn y dalgylch.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw’r awdurdod derbyn ar gyfer ysgolion cymunedol. Yn achos ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir, y corff llywodraethu yw awdurdod derbyn yr ysgol. Gallwch chi ddarllen mwy am hyn dan ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir.
Dyddiadau cau o ran derbyn i ysgolion
Cam Gweithredu | Dyddiad |
Ffurflenni cais a anfonir at rieni/ofalwyr/ysgolion | Dydd Llun 23 Hydref 2017 |
Dyddiad cau ar gyfer ffurflenni cais | Dydd Gwener 12 Ionawr 2018 |
Hysbysu rhieni/gofalwyr o roi/wrthod lle | Dydd Iau 1 Mawrth 2018 |
Hysbysiad o unrhyw apeliadau | O Ebrill 2017 |
Cam Gweithredu | Dyddiad |
Anfonir ffurflenni cais at rieni/ofalwyr/ysgolion | Dydd Llun 27 Tachwedd 2017 |
Dyddiad cau ar gyfer ffurflenni cais | Dydd Gwener 16 Chwefror 2018 |
Hysbysu rhieni/gofalwyr o roi/wrthod lle | Dydd Llun 16 Ebrill 2018 |
Hysbysiad o unrhyw apeliadau | O Fai 2018 |
Derbyn i Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir
Corff Llywodraethu’r ysgol yw ei hawdurdod derbyn.
Gweler meini prawf pob ysgol wirfoddol a gynorthwyir ym Mhen-y-Bont ar Ogwr.
Dogfennau cysylltiedig
Darllenwch y llyfryn 'Dechrau yn yr Ysgol' er mwyn edrych ar y meini prawf derbyn am:
- Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair
- Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair a Sant Padrig, Maesteg
- Ysgol Gynradd Gatholig Sant Robert, Pen-y-bont ar Ogwr
- Ysgol Uwchradd Gatholig yr Archesgob McGrath, Pen-y-bont ar Ogwr
- Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru yr Archddiacon John Lewis
Cyswllt
Dogfennau
- Polisi a threfniadau ar gyfer derbyn plant i ysgolion - PDF 333Kb
- Ffurflen Derbyn ar gyfer Ysgol Gynradd yn dechrau Medi 2018 (mewn dosbarth derbyn neu ysgol plant iau neu gynradd) - DOCX 79Kb
- Ffurflen gais ar gyfer Ysgol Uwchradd yn dechrau Medi 2018 - DOCX 83Kb
- Ffurflen Mynediad am le meithrin llawn-amser dechrau ym mis Medi 2018 (Blwyddyn Dau Meithrin) - DOCX 84Kb
- Ffurflen Mynediad am le meithrin rhan-amser yn dechrau Gwanwyn neu Haf 2019 (Blwyddyn Un Meithrin) - DOCX 84Kb