Grant Mynediad Datblygu Disgyblion (GDD)
Bydd y cynllun ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23 yn dechrau ar 1 Gorffennaf 2022 ac yn dod i ben ar 30 Mehefin 2023.
Mae grant Mynediad PDG Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo teuluoedd sydd ar incwm isel i brynu’r canlynol:
- Gwisgoedd ysgol, yn cynnwys cotiau ac esgidiau
- Dillad chwaraeon, yn cynnwys esgidiau
- Cyfarpar TG: gliniaduron a chyfrifiaduron llechi YN UNIG (dim ond mewn rhai sefyllfaoedd yn unig y dylid defnyddio grant Mynediad PDG, pan na all ysgolion roi benthyg cyfarpar i’r teulu)
- Dillad ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol: sgowtiaid; geidiaid; cadetiaid; crefft ymladd; chwaraeon; y celfyddydau perfformio neu ddawns
- Cyfarpar ee bagiau ysgol a phapur ysgrifennu
- Cyfarpar arbenigol pan fydd gweithgareddau newydd y cwricwlwm yn dechrau, megis dylunio a thechnoleg
- Cyfarpar ar gyfer tripiau y tu allan i oriau ysgol, megis dysgu yn yr awyr agored ee dillad glaw.
Mae’r arian hwn ar gael i ddisgyblion sy’n gymwys ar hyn o bryd i gael prydau ysgol am ddim (ond nid disgyblion y mae eu cymhwystra wedi’i amddiffyn wrth bontio), yn ogystal â’r disgyblion a ganlyn:
- Y rhai a fydd yn dechrau mewn Dosbarthiadau Derbyn ym mis Medi 2022 ar gyfradd o £225
- Y rhai a fydd yn dechrau blwyddyn 1 ym mis Medi 2022 ar gyfradd o £225
- Y rhai a fydd yn dechrau blwyddyn 2 ym mis Medi 2022 ar gyfradd o £225
- Y rhai a fydd yn dechrau blwyddyn 3 ym mis Medi 2022 ar gyfradd o £225
- Y rhai a fydd yn dechrau blwyddyn 4 ym mis Medi 2022 ar gyfradd o £225
- Y rhai a fydd yn dechrau blwyddyn 5 ym mis Medi 2022 ar gyfradd o £225
- Y rhai a fydd yn dechrau blwyddyn 6 ym mis Medi 2022 ar gyfradd o £225
- Y rhai a fydd yn dechrau blwyddyn 7 ym mis Medi 2022 ar gyfradd o £300
- Y rhai a fydd yn dechrau blwyddyn 8 ym mis Medi 2022 ar gyfradd o £225
- Y rhai a fydd yn dechrau blwyddyn 9 ym mis Medi 2022 ar gyfradd o £225
- Y rhai a fydd yn dechrau blwyddyn 10 ym mis Medi 2022 ar gyfradd o £225
- Y rhai a fydd yn dechrau blwyddyn 11 ym mis Medi 2022 ar gyfradd o £225
- Dysgwyr mewn ysgolion arbennig, canolfannau adnoddau arbennig neu unedau cyfeirio disgyblion ac sy’n 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14 neu’n 15 oed; a hefyd
- Plant sy’n derbyn gofal, sydd o oedran ysgol gorfodol ac yr ystyrir eu bod yn blant sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol.
- Dylai disgyblion na allant gael cymorth gan gronfeydd cyhoeddus, ac a fydd yn dechrau yn y blynyddoedd ysgol uchod yn ystod blwyddyn academaidd 2022-23, fod â hawl i gael cymorth dan y Cyllid hwn.
Gwelir mai ar gyfer un flwyddyn yn unig y cynyddwyd cyfradd y grant.
Bydd hyd at £225 o gyllid ar gael i bob dysgwr cymwys, ac eithrio dysgwyr a fydd yn dechrau ym Mlwyddyn 7; bydd gan y disgyblion hynny hawl i gael grant o hyd at £300.
Gellir argraffu a llenwi’r ffurflenni. Rhaid dychwelyd yr holl ffurflenni gorffenedig i’r ysgol y bydd y plentyn yn ei mynychu ym mis Medi 2022.
Sylwer: Nid fydd disgyblion sy’n cael Prydau Ysgol am Ddim oherwydd trefniadau amddiffyn wrth bontio yn gymwys i gael y cyllid grant hwn.