Portage i blant cyn oedran ysgol ag anawsterau dysgu
Gwasanaeth addysgol sy’n ymweld â’r cartref yw Portage, ar gyfer plant cyn oedran ysgol sydd ag anghenion ychwanegol ac oedi datblygiadol.
Cael atgyfeiriad
Gall plant gael gwasanaeth Portage os yw’r canlynol yn berthnasol iddynt:
- maent yn y bumed ganradd isaf mewn tri neu fwy o feysydd datblygiadol yn Asesiad Datblygiad Ruth Griffiths a gynhelir gan bediatregydd cymunedol
- maent ddwy adran yn is na’u hoedran cronolegol mewn tri neu fwy o feysydd datblygiadol ar yr Atodlen o Sgiliau Tyfu
- mae ganddynt Syndrom Down
Mae pediatregyddion cymunedol ac ymwelwyr iechyd yn gwneud atgyfeiriadau i’r Gwasanaeth Seicoleg Addysgol a Gwasanaeth Portage drwy gyfrwng y Panel Blynyddoedd Cynnar. Derbynnir atgyfeiriadau yn dilyn caniatâd ysgrifenedig gan rieni i weithio gyda’r cynghorydd Portage yn y cartref.
Beth sy’n digwydd fel rhan o Portage
- Mae’r cynghorydd Portage a’r seicolegydd addysg blynyddoedd cynnar yn dod ar ymweliad cychwynnol â’r plentyn a’i deulu.
- Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau unigol, mae’r ymweliadau’n cael eu cynnal bob wythnos, bob pythefnos neu bob mis. Gall yr ymweliadau fod yn y cartref a/neu mewn grŵp chwarae.
- Cwblheir rhestri gwirio Portage drwy arsylwi a thrafod gyda rhieni/gofalwyr. Mae hyn yn sefydlu llinell sylfaen o sgiliau ac yn helpu’r cynghorydd Portage a’r rhieni/gofalwyr i gytuno ar dargedau a gweithgareddau ar gyfer y dyfodol.
- Yn ystod ymweliadau diweddarach, mae’r cynghorydd yn arddangos y gweithgareddau y cytunwyd arnynt i’r rhieni/gofalwyr, a fydd yn eu gwneud gyda’r plentyn bob dydd yn ystod yr wythnos ganlynol.
- Bydd raid i’r rhieni/gofalwyr gofnodi cynnydd eu plentyn gyda siart gweithgarwch. Mae hyn yn galluogi datblygu neu newid y gweithgarwch yn ystod yr wythnos ganlynol.
- Mae pob plentyn yn cael bloc o 12 wythnos o Portage i ddechrau, ac wedyn 12 wythnos o gadarnhau gyda chynllun chwarae ar gyfer y teulu.
- Gwneir penderfyniadau ynghylch rhagor o Portage ar sail unigol, gan ddibynnu ar gynnydd y plentyn, nifer y sesiynau grŵp chwarae a dewis y teulu.
Asesu cynnydd plentyn
Mae’r cynghorydd Portage yn monitro cynnydd plentyn bob wythnos gan ddefnyddio’r rhestri gwirio Portage, taflenni gweithgarwch a nodiadau ymweliadau. Mae adroddiad ‘Popeth Amdanaf I’ a ‘Chynllun Chwarae Unigol’ yn cael eu creu ar ddiwedd y Portage. Ochr yn ochr â seicolegwyr addysg, mae cyngor a strategaethau arbenigol yn sail i gynlluniau pontio’r plant.
Goruchwylio cynghorwyr
Mae seicolegwyr addysg yn goruchwylio’r cynghorwyr Portage yn rheolaidd. Hefyd, mae’r cynghorwyr yn cyfarfod gweithwyr proffesiynol eraill sy’n gweithio gyda’r plentyn yn rheolaidd, ac yn cynllunio ymweliadau ar y cyd â’r cartref pan fo hynny’n briodol.
Sut mae cynghorwyr yn cael eu hyfforddi
Mae cynghorwyr Portage yn cael hyfforddiant rheolaidd ochr yn ochr ag arbenigwyr eraill. Mae cyrff addysgol yn cael hyfforddiant a chynlluniau unigol hefyd. Yn ogystal, mae cynghorwyr Portage yn hyfforddi meddygon, therapyddion a chydweithwyr eraill.