Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Presenoldeb yn yr ysgol

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymrwymo i gynyddu potensial pob disgybl sy'n mynd i ysgolion yn y fwrdeistref sirol.

Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i blant oedran ysgol sydd wedi'u cofrestru mewn ysgol fynychu'r ysgol yn rheolaidd. Mae presenoldeb rheolaidd yn bwysig, nid yn unig am mai dyma'r gyfraith, ond oherwydd mai dyma'r ffordd orau o sicrhau bod plant yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd addysgol sydd ar gael iddynt.

Gall rhieni a gofalwyr gael dirwy o hyd at £2,500 neu eu carcharu am fethu sicrhau bod plentyn yn eu gofal yn mynychu'r ysgol yn rheolaidd.

Absenoldeb gydag awdurdod

Bydd adegau pan nad yw plentyn yn gallu mynd i'r ysgol, er enghraifft:

  • pan fydd yn sâl
  • i fynd i apwyntiadau meddygol
  • ar gyfer arsylwi crefyddol

Os ydych chi'n cael problemau gyda phresenoldeb eich plentyn yn yr ysgol mae'n bwysig siarad â staff yr ysgol cyn gynted â phosib.

Gall ein Gwasanaeth Cymorth Lles Addysg a Chymorth Cynnar hefyd ddarparu cymorth, cyngor, ac arweiniad ar faterion ynghylch mynychu’r ysgol.

Cyswllt

Gwasanaeth Cymorth Lles Addysg a Chymorth Cynnar
Ffôn: 01656 815276

Chwilio A i Y