Profion cymunedol i breswylwyr yn Evanstown a Gilfach Goch
Poster information
Posted on: Friday 05 March 2021
Bydd profion cymunedol Covid-19 ar gael i breswylwyr yn Evanstown a Gilfach Goch y penwythnos hwn.
Mae'r ganolfan brofi yng Nghanolfan Ddydd Gilfach Goch ar gael i bobl heb unrhyw symptomau o'r coronafeirws, sy'n byw, gweithio neu astudio yng nghyffiniau Evanstown a Gilfach Goch.
Cadarnhaodd ystadegau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fod posib i un ym mhob tri pherson gyda Covid-19 beidio â dangos symptomau, a'u bod nhw'n gallu trosglwyddo'r feirws i eraill yn ddiarwybod.
Mae nifer o ganolfannau profi lleol wedi cael eu hagor ar draws rhanbarth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg gyda phreswylwyr sy'n 11 oed a hŷn yn cael eu hannog i ddod am brawf swab.
Mae'r profion hyn yn gyflym, effeithlon ac nid oes angen archebu. Maent yn targedu pobl nad ydynt eisoes yn arddangos symptomau o'r feirws, sy'n teimlo'n heini ac yn iach fel arall.
Mae'n bosib i bobl sydd wedi cael eu brechu gario'r feirws, felly, mae trigolion sydd efallai wedi cael prawf o'r blaen, neu sydd wedi cael dos o'r brechlyn, yn cael eu profi. Gydag Evanstown a Gilfach Goch mor agos at ei gilydd, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn rhedeg y ganolfan yn Gilfach Goch i breswylwyr cymunedau Evanstown a Gilfach Goch.
Dywedodd dirprwy arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Hywel Williams
Bydd y profion cymunedol yn cael eu cynnal yn y ganolfan ddydd, 37-39 Stryd Fawr, Gilfach Goch, CF39 8SS, o ddydd Sadwrn 6 Mawrth i ddydd Llun 8 Mawrth ac yna'n ddiweddarach yn y mis, o 15 Mawrth tan 17 Mawrth. Mae ar agor o 9am tan 7pm. Ewch i'r ganolfan brofi cyn 6.30pm i gael eich profi.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â phrofion cymunedol yn Evanstown ewch i www.rctcbc.gov.uk/masstesting