Accessibility links

Listen with Browsealoud
Language selection

Taith rithiol o'ch llyfrgell leol

Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen wedi lansio taith rithiol 360° o'r llyfrgelloedd y mae'n eu rheoli ar draws bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, i roi sicrwydd i gwsmeriaid sy'n dychwelyd i fenthyca llyfrau yn dilyn cyfyngiadau cyfnod clo y coronafeirws.

Mae'r daith ryngweithiol, sy'n cynnwys llyfrgelloedd Abercynffig, Betws, Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg, Pencoed, Porthcawl, y Pîl a Sarn a'r gwasanaeth danfon i'r cartref Llyfrau ar Olwynion, wedi'i datblygu mewn partneriaeth â'r cwmni technoleg, Aspire 2Be.

Ar gael i'w defnyddio ar wefan newydd Llyfrgelloedd Awen, bydd y daith rithiol yn caniatáu defnyddwyr i deithio drwy bob un o ardaloedd y llyfrgell drwy gyffwrdd sgrin eu dyfais ddigidol neu allweddi saeth bysellfwrdd eu cyfrifiadur.

Mae fideos wedi'u mewnosod ym mhob un o'r teithiau i roi rhagor o wybodaeth ynghylch pynciau, gan gynnwys sut i lawrlwytho e-lyfrau, sut i gynnal ymchwil i hanes teulu a hanesion lleol, lle i archebu mannau TG ac astudio, a sut i ddefnyddio'r peiriannau hunanwasanaeth.

Mae'r teithiau rhithiol yn dangos sut mae Awen wedi lansio ystod o weithdrefnau i sicrhau y gall pobl ymweld â'r llyfrgell yn ddiogel, ac maent hefyd yn cynnig mewnwelediad unigryw i sut mae llyfrgelloedd lleol yn gweithredu.

Gobeithio y byddant yn cynnig gwell sicrwydd i bobl wrth i ni geisio agor rhagor o wasanaethau unwaith eto.

Dywedodd y Cynghorydd Dhanisha Patel, Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol

Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, yr elusen gofrestredig sy'n rhedeg y gwasanaethau llyfrgell mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: "Bu ein llyfrgelloedd ar gau y rhan fwyaf o'r flwyddyn, oherwydd y pandemig, felly bydd nifer o gwsmeriaid efallai nad ydynt wedi ymweld yn bersonol ers peth amser.

"Rydym yn gobeithio drwy ddarparu'r teithiau 360° hyn y gallwn roi dealltwriaeth i bobl o beth y gallant ddisgwyl ei weld yn eu llyfrgell leol pan fyddant yn dychwelyd.

"O bosibl y bydd y teithiau yn ysbrydoli eraill hefyd i ymweld â llyfrgell efallai nad ydynt wedi ymweld â hi o'r blaen, neu'n annog pobl i fynd i lyfrgell am y tro cyntaf hyd yn oed. O gysur eu cartref, gall pawb weld pa mor olau, croesawgar a hygyrch yw ein llyfrgelloedd.

"Ond i'r rheiny sy'n dymuno cyfyngu ein rhyngweithiadau o hyd, byddwn hefyd yn parhau i weithredu ein gwasanaeth poblogaidd, Archebu a Chasglu."

Taith rithiol o'ch llyfrgell leol

A to Z Search